Lowri Gwilym
Cynhyrchydd radio-a-theledu Cymreig oedd Lowri Gwilym (14 Hydref 1954 – 21 Gorffennaf 2010). Bu'n gweithio i BBC Cymru ac i S4C.
Lowri Gwilym | |
---|---|
Ganwyd | Lowri Williams 14 Hydref 1954 Aberystwyth |
Bu farw | 21 Gorffennaf 2010 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd radio |
Tad | David Gwyn Williams |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Lowri Williams yn Aberystwyth[1] i Daisy a David Gwyn Williams, awdur ac academydd. Fe'i magwyd yn Nhwrci a Libya, lle'r oedd ei thad yn Athro Saesneg. Pan oedd yn 18 oed, newidiodd ei chyfenw Williams i'r ffurf Gymraeg, Gwilym.[2] Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a chwblhaodd gradd Meistr o Lythyrau ym Mhrifysgol Rhydychen. Yna fe ddarlithiodd ym Mhrifysgol Bologna am ddwy flynedd.[2]
Gyrfa
golyguYmunodd Gwilym a BBC Cymru yn yr 1980au a chynhyrchodd a chyfarwyddodd nifer o raglenni dogfen i deledu dros ddau ddegawd. Roedd y rhain yn cynnwys y gyfres i S4C, O Flaen dy Lygaid ac yn y Saesneg, cyfres Women in Politics.[3] Yn y 1980au hwyr cynhyrchodd rhaglenni dogfen am wahanol ferched mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys Eugenia Charles, Simone Veil, Tatyana Zaslavskaya a Benazir Bhutto.[4] Creodd y rhaglen radio Beti a'i Phobol, a gyflwynir gan Beti George, ar gyfer BBC Cymru.[1][5] Ar achlysur pen-blwydd 25 oed y rhaglen, hi oedd gwestai Beti, ar 14 Mawrth 2010.
Wedi symud i fyd teledu, cynhyrchodd y rhaglen ddogfen 'pry ar y wal' Aber yn 1998 - rhaglen oedd yn dilyn hynt a helynt criw o myfyrwyr flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.[6]
Cyflogwyd Gwilym gan S4C yn 2004 fel golygydd rhaglenni ffeithiol a chyd-gynyrchiadau.[2] Roedd ei chynyrchiadau ar gyfer S4C yn cynnwys O'r Galon, Wynebau Newydd, Cefn Gwlad, Ffermio, a rhaglenni natur Iolo Williams.[3] Bu'n olygydd cynnwys ar y rhaglenni materion cyfoes Y Byd ar Bedwar a Wedi 7.[1] Yn 2010, enillodd wobr BAFTA Cymru am ei gwaith ar Dwy Wraig Lloyd George.[2]
Marwolaeth
golyguBu farw Gwilym yn sydyn o waedlif ar yr ymennydd ar 21 Gorffennaf 2010; yn 55 mlwydd oed.[1][2] Ei phartner oedd y newyddiadurwr teledu Meic Birtwistle, ac roedd ganddynt ddau fab, Ifan a Glyn.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Lowri Gwilym: Widely admired Welsh television executive". The Independent (yn Saesneg). 31 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Williams, Richard (4 August 2010). "Lowri Gwilym obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 April 2016.
- ↑ 3.0 3.1 "S4C programme maker Lowri Gwilym dies" (yn Saesneg). WalesOnline. 23 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ "Lowri Gwilym". British Film Institute. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ "Colli Lowri Gwilym". BBC News. 22 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
- ↑ Aber Aber: Ble maen nhw nawr? , BBC Cymru Fyw, 19 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 15 Hydref 2020.