David Lewis (AS Caerfyrddin)
Roedd David Lewis (1797 – 16 Hydref 1872) yn dirfeddiannwr, yn fargyfreithiwr ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistref Caerfyrddin .
David Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1797 Llanelli |
Bu farw | 16 Hydref 1872 Llanelli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Siryfion Sir Gaerfyrddin yn y 19eg ganrif, bargyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Manylion personol
golyguRoedd Lewis yn unig fab ac etifedd Thomas Lewis, ystâd y Strade, Llanelli a Catherine merch William Lloyd ystâd Larges, Caerfyrddin. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, cyn cael ei alw i'r bar yn Lincolns Inn ym 1823.
Priododd Letitia merch Benjamin Way, Denham Place, Swydd Buckingham. Bu iddynt nifer o blant gan gynnwys yr arlunydd Charles William Mansel Lewis, arlunydd, noddwr a hyrwyddwr celfyddyd yng Nghymru[1]. Bu farw yn y Strade ym 1872 yn 75 mlwydd oed.[2]
Gwaith
golyguGwasanaethodd fel Uchel Siryf Caerfyrddin ym 1833 ac fel Aelod Seneddol y fwrdeistref am un tymor rhwng 1832 a 1835.[3]
Chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad rheilffyrdd De Cymru, Dyffryn Nedd, Llanelli a Llanidloes.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stephanie Jones: Charles William Mansel Lewis: Painter, Patron and Promoter of Art in Wales, Centre for Advanced Welsh & Celtic Studies 1998, ISBN 0947-531602
- ↑ "No title - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1872-10-22. Cyrchwyd 2016-06-13.
- ↑ The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions - William Retlaw Williams adalwyd 13 Mehefin 2016
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Henry Yelverton |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin 1832 – 1835 |
Olynydd: David Morris |