Mansel Lewis

arlunydd, noddwr a hyrwyddwr y celfyddyd yng Nghymru

Roedd Charles William Mansel Lewis (184513 Mawrth 1931) o Barc y Strade, Llanelli, yn arlunydd, noddwr a hyrwyddwr y celfyddyd yng Nghymru[1]

Mansel Lewis
Ganwyd1845 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw13 Mawrth 1931 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
PriodEdith Clare Miles Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Mansel Lewis yn Llundain yn drydydd plentyn a mab hynaf David Lewis a'i Wraig Laetita merch Benjamin Way, Denham Place, Swydd Buckingham. Roedd ei dad yn ustus heddwch, AS, entrepreneur a landlord Castell y Strade, Llanelli ac roedd ei fam yn arlunydd dyfrlliw talentog. Treuliodd ei blentyndod yng Nghastell y Strade. Yn ddiweddarach cafodd ei anfon i Goleg Eton lle sylwyd ar ei dalent fel arlunydd yn y dosbarthiadau celf. Ar ôl darfod yn Eton Astudiodd Lewis y Clasuron ym Mhrifysgol Rhydychen gan raddio gyda gradd dosbarth cyntaf. Yn ogystal ag astudio at ei radd bu'n mynychu dosbarthiadau arlunio William Riviere o Ysgol Celfyddyd Gain Slade.

Ym 1875 priododd Lewis a Edith Clare Miles, merch Syr Philip John William Miles a Frances Elizabeth Roche, bu iddynt 7 o blant.

Ym 1872 etifeddodd Lewis ystâd Y Strade ar farwolaeth ei dad a fu'n cyflawni dyletswyddau'r tirfeddiannwr bonheddig. Ym 1881 bu'n gwasanaethu fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin. Fel tirfeddiannwr Lewis fu'n gyfrifol am ganiatáu i Glwb Rygbi Llanelli (a Chlwb Criced Llanelli) i chware eu gemau ar Barc y Strade[2].

Gyrfa fel arlunydd

golygu
 
Mansel Lewis, hunan bortread (1866)

Wedi etifeddu ystadau a busnesau ei dad roedd gan Lewis y rhyddid i gysegru ei fywyd i beintio a graffeg. Ym 1873 cyfarfu a'r artist Syr Hubert von Herkomer, gan gychwyn cyfeillgarwch gydol oes rhyngddynt. Rhwng 1879 a 1884 bu Lewis a Herkomer yn cynnal cyrsiau peintio yng Ngogledd Cymru gan dreulio'r nos mewn pebyll a chytiau. Trwy'r cysylltiad â Lewis gyflwynwyd Herkomer i'r Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n gyfrifol am gynllunio cleddyf yr orsedd a gwisg yr Archdderwydd a wisgwyd gyntaf gan Hwfa Môn, Lewis dalodd am y gwaith.[3] Bu Lewis hefyd yn gyfrifol am ddatblygu adaran gelf a chrefft yr Eisteddfod.[4]

Cafodd gwaith Lewis ei arddangos yn rheolaidd yn yr Academi Frenhinol a'r Academi Frenhinol Gymreig. Ym 1893 bu gwaith Lewis yn rhan o arddangosfa ryngwladol yn Chicago. Ym 1907 sefydlodd Ysgol Gelf Llanelli gan wasanaethu fel ei llywydd hyd ei farwolaeth.

Roedd gan Lewis gasgliad mawr o waith gan arlunwyr eraill gan gynnwys gweithiau gan Herkomer, William Riviere ac Edwin Landseer, ond wedi methu rhai o'i fuddsoddiadau busnes ym 1883 gorfodwyd iddo werthu rhan o'r casgliad.

Yn groes i arferiad y cyfnod tueddodd gwaith Lewis i osgoi sentimentaliaeth a phathos gan ddarlunio tirwedd a phobl fel rhan o natur. Ei hoff gyfrwng oedd olew ond creodd nifer o ddarluniau mewn dyfrlliw hefyd. Roedd yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol yr Ysgythrwyr a cheir enghreifftiau o ysgythriadau safonol yn ei waith.[5]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref, Castell y Strade, Llanelli yn 86 mlwydd oed, bu farw Edith Clare ei wraig dair blynedd ar ei ôl ym 1934.

Galeri

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Stephanie Jones: Charles William Mansel Lewis: Painter, Patron and Promoter of Art in Wales, Centre for Advanced Welsh & Celtic Studies 1998, ISBN 0947-531602
  2. "LeaseonStradeyGround - Llanelly Star". Brinley R. Jones. 1914-08-01. Cyrchwyd 2016-06-13.
  3. Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion - 1992 1992 Gorsedd y Beirdd : from Primrose Hill 1792 to Aberystwyth 1992 adalwyd 13 Mehefin 2016
  4. "Mr. C. W. Mansel Lewis." Times (London, England) 18 Mar. 1931: 11. The Times Digital Archive. adalwyd 13 Mehefin 2016
  5. Hartfrid Neunzert Mansel Lewis and Hubert Herkomer: Wales - England - Bavaria, Neues Stadtmuseum, Landsberg 1999, ISSN 0931-2722
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: