David Lewis (Jeswit)
Jeswit, sef aelod o Gymdeithas yr Iesu, a merthyr Catholig oedd David Lewis (1616 – 27 Awst 1679) a adnabuwyd hefyd fel Charles Baker ac yn ei fro enedigol fel "Tad y Tlodion". Fe'i cysegrwyd (neu ei 'ganoneiddio') gan y Pab Pawl VI yn 1970 fel un o 'Ddeugain Merthyr Cymru a Lloegr' ac ystyrir ef yn sant gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig.[1]
David Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1616 Y Fenni |
Bu farw | 27 Awst 1679 Brynbuga |
Man preswyl | Sir Fynwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
Dydd gŵyl | 27 Awst |
Bywyd cynnar
golyguGaned Lewis yn 1616, yr ieuengaf o naw o blant y Parch Morgan Lewis (Protestant a phrifathro) a Margaret Pritchard, (Pabydd), a anwyd yn y Fenni, Sir Fynwy.[2]
Ymwelodd a Paris pan oedd yn 16 oed ac yno y trodd yn Gatholig. Oherwydd y droedigaeth hon, astudiodd mewn coleg yn Rhufain, gan ddefnyddio'r enw "Charles Baker", fel oedd yn arferol yn y cyfnod rhag i ysbiwyr y Goron ei ganfod. Ordeiniwyd ef yn offeiriad Catholig ar 20 Gorffennaf 1642 ac ymunodd a'r Jeswitiaid.[3]
Fe'i hanfonwyd i Gymru ar genhadaeth ym 1648; bu'n gweinidogaethu yno i'r llu o deuluoedd Catholig a oedd yn y cylch, gan fyw am flynyddoedd gyda Morganiaid Llantarnam, teulu yr oedd perthynas gwaed rhyngddo a nhw, a daeth yn bennaeth (neu Superior) Cenhadaeth Sant Francis Xavier (gyda'i ganolfan yn Cwm, Swydd Henffordd) o 1667 hyd 1672 ac o 1674 hyd 1679. Pregethai yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac fe'i hadnabyddid, yn y cylch, yn gariadus, fel "Tad y Tlodion".
Arestio a dienyddio
golyguMy religion is Roman Catholic; in it I have loved above these forty years; in it now I die, and so fixedly die, that if all the good things in the world were offered to me to renounce it, all should not remove me one hair’s breadth from the Roman Catholic faith. A Roman Catholic I am; a Roman Catholic priest I am; a Roman Catholic priest of that order known as the Society of Jesus, I am;"
Fe'i harestiwyd ar 17 Tachwedd 1678 yn Eglwys Sant Mihangel, Llantarnam, Sir Fynwy. Condemniwyd ef yn Nhrefynwy ym Mawrth 1679 am fod yn offeiriad Pabyddol. Anfonwyd ef i Lundain i'w 'archwilio' (ei holi) gan Titus Oates, a gynlluniodd 'Gynllwyn y Pab'.
Cynhaliwyd ei brawf yn Nhrefynwy ar 16 Mawrth 1679.[6]
Marwolaeth
golyguDygwyd ef yn ôl i Frynbuga ac yno ar 27 Awst 1679 fe'i crogwyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Joseph N. Tylenda (1998). Jesuit Saints & Martyrs: Short Biographies of the Saints, Blessed, Venerables, and Servants of God of the Society of Jesus (yn Saesneg). Jesuit Way. t. 266. ISBN 978-0-8294-1074-7.
- ↑ "LEWIS, DAVID (alias Charles Baker) (1617 - 1679), Jesiwit a merthyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-07.
- ↑ "St David Lewis, SJ". The Jesuit Singapore Website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-12. Cyrchwyd 2014-07-12.
- ↑ Challoner, Richard (1836). Modern British Martyrology: Commencing with the Reformation, A.D. 1535, 26th Henry VIII. to A.D. 1684, 24th Charles II. London: Keating, Brown, & Co. t. 240. Cyrchwyd 2014-07-12.
- ↑ Cambden, Burnet (1720). The dying speeches and behaviour of the several state prisoners that have been executed the last 300 years. London. t. 350. Cyrchwyd 2014-07-12.
- ↑ Roberts, Alun (2002). Welsh National Heroes. Y Lolfa. t. 40. ISBN 9780862436100. Cyrchwyd 2014-07-12.