Morfa Bychan

pentref yng Ngwynedd

Pentref arfordirol yng Ngwynedd yw Morfa Bychan ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r de-orllewin o dref Porthmadog ac i'r dwyrain o Gricieth, ar ochr ogleddol aber Afon Glaslyn lle mae'n cyrraedd Bae Tremadog.

Morfa Bychan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPorthmadog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9144°N 4.1643°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH544374 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Mae'n lle poblogaidd iawn gan dwristiaid yn yr haf, yn enwedig oherwydd traeth Morfa Bychan, Black Rock Sands yn Saesneg, sy'n ymestyn o'r pentref i gyfeiriad Cricieth. Caniateir gyrru ceir ar y traeth yma. Ceir nifer o siopau a thafarnau yma ynghyd â sawl gwersyll carafanau.

Gerllaw mae gwarchodfa natur Morfa Bychan, yn perthyn i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a heb fod ymhell o'r pentref mae'r Garreg Wen, cartref y cerddor Dafydd y Garreg Wen. Y tu ôl i'r pentref ceir bryn Moel y Gest.

Morfa Bychan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau

golygu