David Rowlands (Dewi Môn)

clegiwr ac awdur

Llenor Cymraeg a gweinidog oedd David Rowlands, a ysgrifennai dan yr enw barddol Dewi Môn (4 Mawrth 1836 - 7 Ionawr, 1907).[1][2]

David Rowlands
Dewi Môn (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
FfugenwDewi Môn Edit this on Wikidata
Ganwyd4 Mawrth 1836 Edit this on Wikidata
Rhos-y-bol Edit this on Wikidata
Bu farw1907 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, prifathro coleg, llenor, bardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Brodor o Ynys Môn oedd David Rowlands. Cafodd ei addysg yn Y Bala a Llundain. Dychwelodd i Gymru ac ymsefydlodd yn Llanbrynmair fel gweinidog. Symudodd i dref Caerfyrddin ac oddi yno i Aberhonddu yn 1872 i fod yn athro coleg; penodwyd ef yn brifathro yn 1897. Bu farw yn 1907.[1]

Gwaith llenyddol

golygu

Ystyriwyd Rowlands yn llenor da yn ei ddydd ac enillodd gryn dipyn o fri fel emynydd. Cyhoeddodd gyfrol ar ramadeg Cymraeg, pregethau a thraethodau. Roedd yn gyfaill i'r bardd Tudno, a chyhoeddodd detholiad o'i waith, gyda chofiant iddo, yn 1897 dan y teitl Telyn Tudno.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • David Rowlands, Grammadeg Cymraeg (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1877)
  • David Rowlands (gol.), Telyn Tudno (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1897).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922).
  2. Owen, J. D., (1953). ROWLANDS, DAVID (‘Dewi Môn’; 1836 - 1907), gweinidog Annibynnol a phrifathro. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Chwefror 2020