David Vaughan Thomas
Cyfansoddwr Cymreig oedd David Vaughan Thomas (15 Mawrth 1873 – 15 Medi 1934).
David Vaughan Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mawrth 1873 Ystalyfera |
Bu farw | 15 Medi 1934 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor |
Cafodd ei eni yn Ystalyfera, Morgannwg. Astudiodd cerddoriaeth o dan Joseph Parry yn Abertawe. Aeth i Goleg Llanymddyfri, ac astudiodd mathemateg yng Ngholeg Exeter, Rhydychen. Yn ddiweddarach enillodd raddau BMus a DMus o Rydychen (1906, 1911). Bu'n dysgu yng Ngholeg y Gwasanaethau Unedig, Westward Ho!, ac yn Ysgol Harrow. Ym 1906 priododd â Morfydd Lewis o Bontarddulais, a bu iddynt dri mab; bu'r teulu'n byw yn Abertawe am lawer o flynyddoedd. Ym 1927 penodwyd ef yn arholwr tramor ar gyfer Coleg Cerdd y Drindod (Trinity College of Music), Llundain, a theithiodd yn helaeth yn y sefyllfa honno. Bu farw yn Johannesburg, De Affrica.
Gweithiau cerddorol
golygu- = dyddiad cyhoeddi
Cerddorfaol
golygu- Agorawd (a gyfansoddwyd ar gyfer agor yr Ŵyl Ddrama Gymraeg, Abertawe, 1922)
Corawl
golygu- The Bard, bariton, corws a cherddorfa (Thomas Gray; perfformiwd yng Ngŵyl Caerdydd, 1910)
- Chwe Alaw Werin, côr plant a cherddorfa (Eisteddfod Abertawe, 1926)
- Llyn y Fan, soprano, tenor, bariton, corws a cherddorfa (J. Jenkins; perfformiwd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1907)
- Song for St Cecilia's Day (Dryden; perfformiwyd yn Queen's Hall, Llundain, 1909)
Rhanganau
golygu- Carol (Lewis Davies, 1933*)
- Coffâd am y Gorseddogion Ymadawedig (1926*)
- Deio Bach (John Jones)
- Y Fun a'r Lliw Ewyn Llif (Bedo Aeddren, 1925*)
- Y Gariad Gollwyd (Wordsworth cyf. Gwili)
- Yr Hafaidd Nos (Owen Griffith Owen, 1913*)
- Here's to Admiral Death (Henry Newbolt, 1916*)
- How Sleep the Brave (William Collins, 1925*)
- How Sweet the Moonlight Sleeps (Shakespeare, 1929*)
- Hymn to Diana (Ben Jonson, 1914*)
- Let us Now Praise Famous Men (Lewis Davies, 1920*)
- Meg Merrilies (Keats, 1922)
- Molawd Môn (Goronwy Owen, 1926)
- Orpheus with his Lute (Shakespeare, 1932*)
- Phoebus Arise (William Drummond, 1924)
- Prospice (1935*)
- Summer is Gone (Thomas Hood, 1932*)
- Sweet Content (1932*)
- Up-hill (Christina Rossetti, 1914*)
- Who is Silvia? (Shakespeare, 1932*)
Anthemau
golygu- Yr Arglwydd yw fy Mugail (1930)
- Bendithiaf yr Arglwydd (1906*)
- Bywyd (1926*)
- Pwy ydwy y Rhai Hyn (1915*)
- Rwy'n Ofni Grym y Dŵr
- There is a Green Hill Far Away (C. F. Alexander, 1914*)
- Ysbryd yw Duw, côr meibion (1920*)
Caneuon
golygu- Angladd y Marchog (R. D. Rowlands, 1906*)
- Bedd y Dyn Tylawd (Ioan Emlyn, 1914*)
- Berwyn, llais a cherddorfa (William Llŷn, 1926)
- Y Bwthyn Bach To Gwellt (1923*)
- Caledfwlch (T. Gwynn Jones, 1931*)
- Cân Hen Ŵr y Cwm (1922*)
- Cân y Bardd wrth Farw (Gwenffrwd, 1907*)
- Cân y Llanc Chwerthinllyd (1922*)
- Cantref y Gwaelod (1931)
- Cantre'r Bardd (1932)
- Come Along; Can't you Hear? (D. M. Beddoes, 1914*)
- Y Delyn (Caledfryn, 1932)
- Dirge in Woods (George Meredith, 1924*)
- Dorset Voices (Eos Gwalia, 1913*)
- Einioes (Rhys Jones, 1922*)
- Enter these Enchanted Woods (George Meredith, 1914*)
- Y Ferch o'r Scer (1922*)
- Ffarwel fy Ngeneth (Eben Fardd, 1933*)
- Gofyn Cosyn (Goronwy Owen, 1922)
- How Sweet the Moonlight Sleeps (Shakespeare, 1929*)
- Llais yr Adar (1914*)
- Y Lloer, deuawd (David Vaughan Thomas, 1924*)
- Nant y Mynydd (1930*)
- Y Newydd Dant (Edward Jenkins, 1915*)
- O Fair Wen (William Llŷn, 1926)
- Rock of Ages (A. M. Toplady, 1902*)
- Saith o Ganeuon ar Gywyddau Dafydd ap Gwillym ac Eraill: "Y Nos", "Y Gwlith", "Miwsig", "Elen", "Dau Filgi", "Claddu'r Bardd o Gariad", "Hiraeth am yr Haf" (1922)
- Seren Heddwch (1931)
- Si Hwi Lwli (T. H. Jones, 1914*)
- Song in the Songless (George Meredith)
- Stafell Gynddylan, bariton, feiolin, soddgrwth a thelyn (1926*)
- Ten Welsh Folk Songs (1928*)
- Thou to Me Art Such a Spring (George Meredith)
- When I Would Image her Features (George Meredith)
- The Winter Rose (George Meredith)
- Yr Wylan Deg (Dafydd ap Gwyilym, 1924)
- Ymadawiad Arthur (T. Gwynn Jones, 1930*)
- Ysbryd y Mynydd (L. D. Jones, 1914*)
Offerynnol
golygu- Allegro vivace in D, piano (1934*)
- Bourrée a Musette, sielo a phiano
- Duo yn G, sielo a phiano (1931)
- Pedwarawdau Llinynnol, A, e, G
- Pumawd Llinynnol (perfformaid cyntaf Cape Town, 1930)
- Romanza, piano (1934*)
- Romanza, sielo a phiano
- A Welsh Dance, telyn, obo, feiolin (1924)
Emyn donau
golygu- Mwy na 20 emyn dôn
Llyfryddiaeth
golyguTir Newydd 16 (Mehefin 1939) [rhifyn arbennig]
Dolenni allanol
golygu- Tudalen Tŷ Cerdd Archifwyd 2019-06-14 yn y Peiriant Wayback