David Watkin Jones (Dafydd Morganwg)

bardd, hanesydd, a daearegydd (1832-1905)
(Ailgyfeiriad o David Watkin Jones)

Bardd a hanesydd Cymreig oedd David Watkin Jones (14 Chwefror 183225 Ebrill 1905), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Dafydd Morganwg (sic gyda un 'n'). Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y gwerslyfr poblogaidd ar brydyddiaeth Gymraeg, Yr Ysgol Farddol.

David Watkin Jones
FfugenwDafydd Morganwg Edit this on Wikidata
Ganwyd14 Chwefror 1832 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1905 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Roedd yn frodor o dref Merthyr Tudful ym Morgannwg, lle y'i ganed yn 1832. Fel nifer o'i gydfrodorion, cafodd waith fel glöwr yn y pyllau glo lleol ac yn nes ymlaen daeth yn oruchwyliwr dros gwmni masnach o Ffrainc. Ymgartrefodd yng Nghaerdydd lle bu'n byw yn ei gartref Morganwg House am weddill ei oes. Bu farw yn 1905.[1]

Gwaith llenyddol golygu

Ysgrifennodd gyfrol ar hanes Morgannwg (1874), ond ei brif waith oedd Yr Ysgol Farddol, a gyhoeddodd yn 1869.[1] Bwriadwyd y llyfr i fod yn ganllaw safonol i ddeall a chyfansoddi barddoniaeth Gymraeg ar y mesurau caeth. Mae ar ffurf 'holi ac ateb' rhwng disgybl ('Ifor') ac athro ('Arthur'). Bu'n llyfr poglogaidd gan redeg i bedwar argraffiad yn oes yr awdur ei hun. Nid yw'n llyfr safonol erbyn heddiw, fodd bynnag. Un o'i ddiffygion yw'r ffaith fod yr awdur yn derbyn ffugiadau Iolo Morganwg ac yn rhoi pwyslais mawr ar "Ddosbarth Morgannwg" fel y'i ceir yn y gyfrol Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain gan Iolo. Er hynny, cymeradwyd y llyfr gan rai o feirdd amlycaf y 19eg ganrif, yn cynnwys Mynyddog a Hwfa Môn.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. Yr Ysgol Farddol (4ydd argraffiad, 1904), tt. xiv-xvi.