Rowland Williams (Hwfa Môn)

prifardd a gweinidog gyda'r Annibynwyr
(Ailgyfeiriad o Hwfa Môn)

Bardd oedd Rowland Williams (Hwfa Môn) (Mawrth 182310 Tachwedd 1905) ac un o ffigyrau cyhoeddus mwyaf adnabyddus ei ddydd. Bu'n Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru o 1895 hyd ei farw.

Rowland Williams
FfugenwHwfa Môn Edit this on Wikidata
GanwydMawrth 1823 Edit this on Wikidata
Trefdraeth Edit this on Wikidata
Bu farw10 Tachwedd 1905 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Hwfa Môn yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, ond cafodd ei fagu yn Rhostrehwfa ar yr ynys ; cymerodd ei enw barddol o enw'r pentref bychan hwnnw. Gweithiodd am gyfnod fel gweinidog gyda'r Annibynwyr mewn rhannau eraill o ogledd Cymru a hefyd yn Llundain. Yn 1881 dychwelodd i Fôn i fod yn weinidog yn Llannerch-y-medd.

Yn 1862 enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 1867 enillodd y Goron (dyma flwyddyn gyntaf cystadleuaeth y Goron).

Yn 1905 cafodd ei bortreadu yn ei wisg Orseddol gan yr arlunydd Christopher Williams.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth,

  • Gwaith Barddonol Hwfa Môn; Argraffwyd gan Jane ac E Jones, Llanerchymedd (1883, 1903)

Cyhoeddwyd cofiant iddo ym 1907

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.