De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De
(Ailgyfeiriad o De Georgia ac Ynysoedd De Sandwich)
Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig yn ne Cefnfor Iwerydd yw De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De (South Georgia and the South Sandwich Islands). Mae'r diriogaeth yn cynnwys ynys fawr De Georgia ynghyd â chadwyn o ynysoedd llai, Ynysoedd Sandwich y De, tua 520 km i'r de-ddwyrain. Mae gan yr ynysoedd fynyddoedd serth a llawer o rewlifau.[1] Mae ganddynt boblogaethau mawr o adar a morloi.[1]
Arwyddair | Leo Terram Propriam Protegat |
---|---|
Math | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, tiriogaeth ddadleuol |
Prifddinas | King Edward Point |
Poblogaeth | 35 |
Anthem | God Save the King |
Pennaeth llywodraeth | Nigel Haywood |
Cylchfa amser | UTC−02:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 4,066 km² |
Cyfesurynnau | 54.25°S 36.75°W |
Pennaeth y Llywodraeth | Nigel Haywood |
Arian | punt sterling |
Ymwelodd James Cook â'r ynysoedd ym 1775.[2] Dros y ddwy ganrif ganlynol, daeth yr ynysoedd yn ganolfan bwysig i hela morloi a morfilod.[2] Heddiw, mae gan Dde Georgia ddwy orsaf ymchwil ac amgueddfa.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 CIA World Factbook (2012) South Georgia and the South Sandwich Islands Archifwyd 2015-08-13 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 25 Medi 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 South Georgia Heritage Trust (2010) History Archifwyd 2012-10-02 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 25 Medi 2012.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Llywodraeth De Georgia Archifwyd 2013-10-31 yn y Peiriant Wayback