De Revolutionibus Orbium Coelestium
Llyfr gan Nicolaus Copernicus o'r pwysigrwydd mwyaf i hanes gwyddoniaeth oedd De Revolutionibus Orbium Coelestium ("Ynglŷn â chylchdroadau sfferau'r nef"). Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf yn Nürnberg, Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, ym 1543. Mae gan y llyfr cyflwyniad i Bab Pawl III. Yn y gyfrol mae Copernicus yn cyflwyno ei theori heliosentrig ei theori i esbonio symudiadau'r planedau yn lle system geosentrig Ptolemi a dderbyniwyd yn gyffredinol ers oes yr Henfyd.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig ![]() |
---|---|
Golygydd | Johannes Petreius ![]() |
Awdur | Nicolaus Copernicus ![]() |
Gwlad | Palatinate-Neuburg ![]() |
Iaith | Lladin ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1543 ![]() |
Genre | traethawd ![]() |
Lleoliad cyhoeddi | Nürnberg ![]() |
Prif bwnc | seryddiaeth, Copernican Revolution, heliocentrism ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6f/De_revolutionibus_1543.png/220px-De_revolutionibus_1543.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e9/De_revolutionibus_orbium_coelestium.jpg/220px-De_revolutionibus_orbium_coelestium.jpg)
Dadleuodd Copernicus fod y bydysawd yn cynnwys wyth sffêr. Yn y sffêr mwyaf allanol oedd y sêr disymud, sefydlog; yn y canolbwynt oedd yr Haul. Roedd y planedau a oedd yn hysbys i seryddwyr ar y pryd yn cylchdroi o amgylch yr Haul, pob un yn ei sffêr ei hun, yn y drefn: Mercher, Gwener, Daear, Mawrth, Iau, Sadwrn. Fodd bynnag, roedd y Lleuad yn cylchdroi yn ei sffêr ei hun o gwmpas y Ddaear. Yr hyn yr ymddengys oedd chwyldro dyddiol yr Haul a sêr sefydlog o gwmpas y Ddaear mewn gwirionedd oedd cylchdro dyddiol y Ddaear ar ei echelin ei hun.
Dolenni allanol
golygu- De Revolutionibus Orbium Coelestium, argraffiad cyntaf (1543) ym Mhrifysgol Harvard
- De Revolutionibus Orbium Coelestium, argraffiad cyntaf (1543) yn Rare Book Room
- De Revolutionibus Orbium Coelestium argraffiad cyntaf (1543) yn Llyfrgell y Gyngres
- De Revolutionibus Orbium Coelestium ail argraffiad (1566) yn Llyfrgell y Gyngres
- De Revolutionibus Orbium Coelestium, trawsgrifiad y testun Lladin yn Wicidestun