Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2il Farwn Penrhyn

Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2il Farwn Penrhyn


George Sholto Gordon Douglas-Pennant (30 Medi 1836 - 10 Mawrth 1907) oedd ail Farwn Penrhyn o'r ail greadigaeth. Roedd yn berchen ar ystâd enfawr yng ngogledd-orllewin Cymru, ond mae'n fwyaf adnabyddus fel perchennog Chwarel y Penrhyn adeg y Streic Fawr rhwng 1900 a 1903.[1]

Fe'i ganed yn Linton Springs, Swydd Efrog, ar 30 Medi 1836. Roedd yn fab hynaf i Edward Gordon Douglas (1800-1886). Ei fam, gwraig gyntaf ei dad, oedd Juliana Isabella Mary (bu farw 1842), merch hynaf a chyd-aeres George Hay Dawkins-Pennant o Gastell Penrhyn. Yn 1841 etifeddodd ei dad ystâd enfawr ei wraig yng ngogledd Cymru, sef Castell Penrhyn. Mabwysiadodd yr enw Pennant a chafodd y teitl Barwn Penrhyn ar 3 Awst 1866.

Roedd ei dad wedi bod yn Aelod Seneddol Torïaidd dros Sir Gaernarfon am chwarter canrif pan wnaed ef yn Farwn Penrhyn yn 1866. Gan ei fod ef yn awr yn symud i Dŷ'r Arglwyddi, y bwriad oedd i'w fab etifeddu ei sedd a'i safle yn y sir. Fodd bynnag, yn etholiad 1868 curwyd ef yn annisgwyl gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Love Jones-Parry o Fadryn. Yn dilyn y golled hon diswyddodd ei dad 80 o chwarelwyr am fethu â phleidleisio drosto.[2] Er iddo ennill y sedd yn ôl yn 1874, credir fod hyn wedi ei chwerwi yn erbyn y chwarelwyr, oedd â thuedd gref i fod yn Rhyddfrydwyr.

Etifeddodd y teitl a'r ystâd ar farwolaeth ei dad Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn, yn 1886. Penododd E.A. Young yn rheolwr Chwarel y Penrhyn yn fuan wedyn, a buan y gwelwyd fod y dull o reoli wedi newid. Dilynwyd streic (neu yn hytrach, gloi allan) o un mis ar ddeg yn 1896-7 gan y Streic Fawr rhwng 1900 a 1903. Roedd y ddwy ochr yn benderfynol o beidio ildio, ond yn y diwedd bu'n rhaid i'r chwarelwyr ddychwelyd i'r gwaith ar delerau Penrhyn. Ystyrir yr anghydfod yn ddechrau dirywiad diwydiant llechi Cymru.

Ystyrid Barwn Penrhyn yn feistr tir blaengar a chymwynasgar i denantiaid oedd yn barod i ufuddhau iddo, ond yr oedd yn hollol ddigymrodedd ynglŷn â'i hawl i redeg ei chwarel yn ei ffordd ei hun a delio â'i weithwyr yn unigol yn hytrach na thrwy'r undeb.

Bu farw ar 10 Mawrth 1907 yn 70 oed yn Llundain.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "PENNANT (TEULU), Penrhyn, ger Llandegai. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-15.
  2. Cregier, Don M., 1930- (1976). Bounder from Wales : Lloyd George's career before the First World War. Columbia: University of Missouri Press. ISBN 0-8262-0203-9. OCLC 2072870.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Douglas-Pennant
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon
18661868
Olynydd:
Love Jones-Parry
Rhagflaenydd:
Love Jones-Parry
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon
18741880
Olynydd:
Charles James Watkin Williams