Watkin Williams
Roedd Syr Charles James Watkin Williams (23 Medi, 1827* gweler nodyn geni isod - 17 Gorffennaf, 1884) yn farnwr, yn feddyg ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a oedd yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin o 1868 i 1880 fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych ac ym 1880 fel AS Sir Gaernarfon [1].
Watkin Williams | |
---|---|
Ganwyd | 23 Medi 1827 Llangar |
Bu farw | 17 Gorffennaf 1884 Nottingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | barnwr, gwleidydd, meddyg |
Swydd | Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Priod | Elizabeth Williams |
Bywyd Personol
golyguRoedd Watkin yn fab i'r Parch. Peter Williams, Rheithor Llansannan, Sir Ddinbych a'i wraig Lydia Sophia, merch James Price, Plas-yn-Llysfaen, Sir Ddinbych[2]. Fe'i anwyd yn Llangar, Sir Feirionnydd. Brawd iddo oedd William Henry Wynn-Williams AS etholaeth Canterbury, yn senedd Seland Newydd. Wedi marw ei rieni cafodd ei fagu gan ei fodryb Elisabeth yn y Merllyn, Cyffylliog[3].
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Rhuthun.
Bu'n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Henrietta merch William Henry Carey ym 1855, bu hi farw ym 1864 bu iddynt o leiaf un fab. Ym 1865 priododd Elizabeth merch yr Arglwydd Ustus Robert Lush[4] bu iddynt 3 merch.
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r ysgol aeth Williams i Lundain i astudio meddygaeth yn Ysbyty Coleg y Brifysgol lle enillodd fedal aur am ei astudiaethau mewn anatomeg gymharol. Bu'n gweithredu am gyfnod fel llawfeddyg tŷ yn yr ysbyty cyn penderfynu rhoi'r gorau i waith meddygol. Ym 1851 cofrestrodd fel myfyriwr yn Neuadd y Santes Fair, Rhydychen ac fel disgybl yn y Deml Ganol gan gael ei alw i'r bar ym 1854. Bu'n ymarfer y gyfraith ar y gylchdaith gartref am gyfnod cyn symud i gylchdaith siroedd de ddwyrain Lloegr gan gael ei godi'n twbmon (bargyfreithiwr mwyaf profiadol) Llys y Trysorlys ym 1859 a Chwnsler y Frenhines ym 1873. Roedd yn arbenigo mewn achosion ariannol a masnachol.
Bu hefyd yn awdur llyfrau am y gyfraith.
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd Williams yn enw'r Blaid Ryddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych yn etholiad cyffredinol 1868. Roedd yr etholiad yn un fudur gyda Thomas Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Ysbyty Meddwl Dinbych, yn bygwth troi gweithwyr yr ysbyty o'u swyddi am gefnogi Watkins[5]. Er hynny llwyddodd i gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwr Townshend Mainwaring. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1874.
Yn y senedd bu yn frwd o blaid datgysylltiad Eglwys Lloegr yng Nghymru gan ddod a mesur i'r perwyl o flaen y tŷ ym 1870. Bu'n gwasanaethu ar bwyllgor ar fenthyciadau o dramor ym 1875. Yn etholiad cyffredinol 1880 fe'i gwahoddwyd i sefyll yn etholaeth Sir Gaernarfon wedi i'r ddarpar ymgeisydd Rhyddfrydol, Syr Love Jones-Parry, gorfod tynnu ei enw yn ôl oherwydd afiechyd [6]. Llwyddodd i gipio'r sedd oddi wrth yr aelod Ceidwadol Douglas Pennant.
Ym mis Tachwedd 1880 dyrchafwyd tad yng nghyfraith Williams, Y Barnwr Robert Lush yn Arglwydd Ustus, a rhoddwyd cynnig i Williams cymryd ei le fel barnwr cyffredin. Derbyniodd y gwahoddiad, a gan nad oes hawl gan farnwr bod yn Aelod Seneddol, ymddeolodd o Dŷ'r Cyffredin. Fe'i urddwyd yn farchog ar yr un pryd[7].
Marwolaeth
golyguYm mis Ebrill 1884 cafodd Williams wybod ei fod yn dioddef o anhwylder y galon a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w gwaith ar y fainc am rai misoedd[8]. Wedi cyfnod yn ymlacio yn yr Eidal a Ffrainc dychwelodd i'w gwaith ond gyda rhybudd gan ei feddyg i beidio â gwneud unrhyw beth or egnïol. Wedi diwrnod yn y llys yn Nottingham ac wedi bwyta pryd mawr o fwyd aeth i buteindy yn y ddinas oedd yn cael ei gadw gan wraig o'r enw Mrs Salmond. Yno fe wnaeth anwybyddu cyngor ei feddyg, a fu farw o drawiad ar y galon yng nghanol weithred egnïol[9]. Ceisiodd awdurdodau'r llys cadw amgylchiadau'r farwolaeth yn ddistaw, yn wir dedfrydwyd cyhoeddwr i garchar am 8 mis am darfu ar yr heddwch am grybwyll yr amgylchiadau[10]. Ceisiodd yr Arglwydd Ganghellor i gadw'r union amgylchiadau allan o'r trengholiad i achos marwolaeth y barnwr. Gwrthododd y crwner i ildio i'r pwysau a thrwy hynny cafodd yr hanes ei adrodd yn y papurau rhad.
Wedi i amgylchiadau ei farwolaeth dod yn hysbys gwerthwyd ffug cardiau coffo iddo yn ardal Nottingham a oedd yn gynnwys y gerdd hyfryd:
“ |
|
” |
Claddwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green Llundain[11].
*Nodyn am ddyddiad geni
golyguMae y rhan fwyaf o gofnodion yn ddweud bod Watkin wedi i eni ar 23 Medi 1828, gan gynnwys y Bywgraffiadur a'r ODNB. Mae hyn yn peri peth dryswch gan fod cofiannau i'w frawd iau, Henry, yn ddweud bod Henry wedi ei eni ar 7 Medi 1828. Mae cofrestri Eglwys yr Holl Saint, Llangar yn cofnodi bedydd Watkin ar 23 Medi 1827 a Henry ar 7 Medi 1828 [12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bywgraffiaur WILLIAMS , Syr CHARLES JAMES WATKIN (1828 - 1884), aelod seneddol a barnwr adalwyd 06 Rhagfyr 2017
- ↑ ODNB Williams, Sir Charles James Watkin adalwyd 06/12/2017
- ↑ Trysorfa y Plant cyhoeddiad misol i ieuenctyd Rhagfyr 1876 Aelodau Seneddol Cymru XII Watkin Williams adalwyd 6 Rhagfyr 2017
- ↑ "MR WATKIN WILLIAMS MP - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1880-11-05. Cyrchwyd 2017-12-06.
- ↑ CYHUDDIAD MR. WATKIN WILLIAMS YN ERBYN MR. THOMAS HUGHES, YSTRAD yn Y Tyst Cymreig 16 Hydref 1868
- ↑ "DISSOLUTION OF PARLIAMENT - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1880-03-13. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ "THENEWKNIGHTS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1880-12-11. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ "MR JUSTICE WATKIN WILLIAMS - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1884-06-07. Cyrchwyd 2017-12-06.
- ↑ R B Wynn-Williams Free from Humbug: The Life and Times of Henry Wynn Williams Shands Track publishing, 2014 - Christchurch (N.Z.) tudalen 163 ISBN 978-0-473-22624-4
- ↑ "CABLU Y DIWEDDAR FARNWR WATKIN WILLIAMS - Y Dydd". William Hughes. 1884-11-14. Cyrchwyd 2017-12-06.
- ↑ "FUNERAL OF THE LATE JUDGE WILLIAMS - The Western Mail". Abel Nadin. 1884-07-23. Cyrchwyd 2017-12-06.
- ↑ Archifau Cymru: Cofrestr Bedydd Llangar, Sir Feirionnydd Tud 53 Rhif 419 (23 Medi 1827) a Tud 56 Rhif 446 (7 Medi 1828)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Townshend Mainwaring |
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych 1865 – 1880 |
Olynydd: Robert Alfred Cunliffe |
Rhagflaenydd: George Douglas-Pennant |
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon 1880 – 1880 |
Olynydd: William Rathbone |