Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd David John Delwyn Williams (1 Tachwedd 193822 Awst 2024), a fu'n Aelod Seneddol Ceidwadol dros Faldwyn rhwng 1979 ac 1983.

Delwyn Williams
Ganwyd1 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
Bu farw21 Awst 2024 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, cyfarwyddwr cwmni Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 48fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Addysgwyd Williams yn Ysgol Uwchradd y Trallwng, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Safodd Williams yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Ceidwadol am y tro cyntaf ym Maldwyn yn Etholiad Cyffredinol 1970. Llwyddodd ennill 7,891 pleidlais (twf o +2.3% ar ganlyniad Ceidwadol 1966) ond trechwyd gan Emlyn Hooson- a fu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros yr etholaeth ers is-etholiad 1962.

Safodd yn yr etholaeth eto fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn Etholiad Cyffredinol 1979, gan lwyddo i drechu Hooson dro hyn gyda mwyafrif o 1,593 pleidlais. Dyma'r tro cyntaf am gwta canrif i'r etholaeth adael meddiant y Blaid Ryddfrydol.[1] Ceisiodd Williams amddiffyn ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1983, ond collodd i'r ymgeisydd Rhyddfrydol, Alex Carlile o 668 pleidlais.

Yn 2007, safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd mewn is-etholiad yn ward Gungrog, y Trallwng ar gyfer Cyngor Sir Powys.

Yn ystod 2015 bu ddatgan ei gefnogaeth i ymgyrch Des Parkinson- yr ymgeisydd UKIP yn etholaeth Maldwyn ar gyfer Etholiad Cyffredinol y flwyddyn yno, gan feirniadu nifer o bolisiau a phenderfyniadau arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron.[2][3]

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod ag Olive ac roedd ganddynt dau o blant. Roeddent yn byw yn Cegidfa, Sir Drefaldwyn.[3]

Bu farw yn Awst 2024 yn dilyn salwch.[4] Roedd yn 85 mlwydd oed.[5] Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Emstrey, yr Amwythig ar 11 Medi 2024 am 1.15pm, wedi ei ddilyn gyda dathliad o'i fywyd yn nhafarn y Kings Head, Guilsfield.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences, gol. Derec Llwyd Morgan (Llandysul: Gomer, 2014)
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-01-02.
  3. 3.0 3.1 "Premier pledges (letter), Your Views and Comments". Shropshire Star (yn Saesneg). 5 Mai 2015. t. 9.Letter published for benefit of former Conservative supporters.
  4. mywelshpool. "Former Montgomeryshire MP passes away - mywelshpool". www.mywelshpool.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-23.
  5. "Former Montgomeryshire MP Delwyn Williams passes away at the age of 85". County Times (yn Saesneg). 2024-08-22. Cyrchwyd 2024-08-23.
  6. "David John Delwyn WILLIAMS". County Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-09.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Emlyn Hooson
Aelod Seneddol dros Faldwyn
19791983
Olynydd:
Alex Carlile