Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1983
Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1983 ar 9 Mehefin 1983. Cafodd y Ceidwadwyr fwyafrif aruthrol o 144 sedd, dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher - y mwyafrif mwyaf ers 1945.
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pob un o'r 650 sedd ar gyfer Tŷ'r Cyffredin. 326 sedd sydd angen i gael mwyafrif | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 72.7% | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Roedd yr wrthbleidiau wedi'u hollti'n eitha cyfartal, rhwng Llafur a Chynghrair y SDP-Rhyddfrydwyr. Dyma oedd perfformiad gwaethaf Llafur ers 1918, gyda'u canran o'r bleidlais yn syrthio tair miliwn ers yr etholiad blaenorol yn 1979. Golygai hyn i'r gogwydd o 4% fynd i gyfeiriad y Ceidwadwyr, a gafodd fwyafrif o 144 sedd. Er hyn, roedd cyfanswm pleidleisiau'r Ceidwadwyr wedi lleihau 700,000. Yn anarferol iawn, gwelwyd y blaid a oedd yn y Llywodraeth (y Ceidwadwyr) yn cynyddu nifer eu seddi.
Roedd y bedair mlynedd cyn yr etholiad wedi bod yn llawn o drafferthion i Thatcher: diweithdra wedi llamu wrth iddi ymdrechu i ffrwyno chwyddiant a oedd ar garlam am y rhan fwyaf o'r 70au. Ar ddechrau 1982 roedd y nifer a oedd yn ddiwaith ymhell dros dair miliwn - am y tro cyntaf ers yr Ail Ryfel Byd. Ac roedd dirwasgiad yn yr economi yn cnoi ers dwy flynedd. Ond, roedd penderfyniad Thatcher i hawlio'n filwrol Ynysoedd y Falklands, neu'r Malvinas, wedi troi'r etholwyr i'r gorlan Geidwadol, a daeth Thatcher yn boblogaidd unwaith eto - yn enwedig yn Lloegr.[1]
Roedd y Gynghrair SDP-Rhyddfrydwyr yn agos iawn i Lafur yn y ras, dim ond cant neu ddau o bleidleisiau a 25% o'r bleidlais, ond roedd cryn dipyn yn llai o seddau ganddynt ar ddiwedd y dydd. Dyma'r ganran uchaf i drydedd plaid ei chael mewn etholiad cyffredinol yn y DU (cofnodir hyn yn 2014); canlyniad hyn oedd ymgyrch gref gan y Gynghrair i sefydlu system bleidleisio tecach a fyddai'n cynnwys elfen o gynrychiolaeth gyfrannol yn hytrach na System etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Etifeddwyd yr ymgyrch hon, flynyddoedd yn ddiweddarach gan y Blaid Ryddfrydol.
Ymddiswyddodd arweinydd y Blaid Lafur, Michael Foot, ychydig wedi'r etholiad; roedd wedi bod wrth y llyw ers ymddiswyddiad James Callaghan a oedd yn Brif Weinidog Llafur rhwng 1976 a 1979. Etholodd Llafur Gymro ar ei ôl - Neil Kinnock. Yn yr etholiad hon, gwelwyd dau lanc ifanc yn cael eu hethol yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf: Tony Blair a Gordon Brown.
Y Canlyniad
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1983: Thatcher triumphs again - BBC News, 5 Ebrill 2005