Is-etholiad Maldwyn, 1962
Cynhaliwyd Is-etholiad Maldwyn, 1962 ar y 15 Mai 1962 yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, Clement Davies.
Cefndir
golyguBu Clement Davies yn Aelod Seneddol dros Faldwyn ers Etholiad Cyffredinol 1929, gan hefyd ddod yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol rhwng 1945 a 1956.[1]
Cyhoeddodd Davies yn Mai, 1960, yn 75 oed, na fyddai'n sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf (1964), fodd bynnag 2 flynedd yn ddiweddarch, ar 23 Mawrth, 1962, bu farw mewn clinig yn Llundain.[2]
Ymgeiswyr
golyguEnwebwyd pedwar ymgeisydd i gystadlu'r is-etholiad:
- Emlyn Hooson (Y Blaid Ryddfrydol): Yn fargyfreithiwr o Ddinbych, safodd Hooson fel ymgeisydd Rhyddfydol yng Nghonwy yn Etholiad Cyffredinol 1950 a 1951, gan ddod yn drydydd ar y ddwy achlysur. Yn 1950, bu briodi Shirley Hamer- merch Syr George a'r Foneddiges Hamer; Rhyddfrydwyr blaengar o Lanidloes, Powys. Bu i Hooson wynebu gryn cystadleuaeth am yr ymgeisyddiaeth Ryddfrydol, gan gynnwys dau o feibion yr Arglwydd Davies, a mab Clement Davies, Stanley.[2]
- Robert H. Dawson (Y Ceidwadwyr)
- Tudor Davies (Llafur)
- Islwyn Ffowc Elis (Plaid Cymru): Dyma'r tro cyntaf y bu i Blaid Cymru ymgeisio mewn etholiad ym Maldwyn.[2]
Canlyniad
golyguLlwyddodd Emlyn Hooson i ennill yr isetholiad gyda mwyafrif o 7,549 pleidlais.[3]
Isetholiad Maldwyn, 1962 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Emlyn Hooson | 13,181 | 51.3 | +9.2 | |
Ceidwadwyr | Robert H. Dawson | 5,632 | 21.9 | −9.4 | |
Llafur | Tudor Davies | 5,299 | 20.6 | −6.0 | |
Plaid Cymru | Islwyn Ffowc Elis | 1,594 | 6.2 | ||
Mwyafrif | 7,549 | 29.4 | +18.6 | ||
Y nifer a bleidleisiodd | 25,706 | 85.1 | +1.3 | ||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Darllen Pellach
golygu- Chapman, Robin Rhywfaint o Anfarwoldeb (Llandysul: Gwasg Gomer, 2003)
- Llwyd Morgan, Derec. Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)
- Wyburn-Powell, Alun. Clement Davies: Liberal Leader. (Llundain: Politico's: 2003)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wyburn-Powell, Alun. Clement Davies: Liberal Leader (Llundain: Politico's: 2003)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Llwyd Morgan, Derec. Emlyn Hooson: Essays and Reminiscences. (Llandysul: Gomer: 2014)
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-05. Cyrchwyd 2012-02-05.