Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1979
Cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1979 ar 3 Mai 1979 er mwyn ethol 635 Aelod Seneddol i Dŷ'r Arglwyddi.
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn y senedd flaenorol roedd James Callaghan a'r Blaid Lafur wedi colli ei mwyafrif seneddol. Gwnaeth Callaghan gytundeb gyda'r Rhyddfrydwyr ac Unoliaethwyr Wlster ynghyd â Phlaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru fel y gall barhau mewn grym. Erbyn Mawrth 1979 roedd wedi colli cefnogaeth a chafwyd pleidlais o ddiffyg hyder. Collodd o un bleidlais er i dri aelod Plaid Cymru: Gwynfor Evans, Dafydd Elis Thomas a Dafydd Wigley ei gefnogi.
Daeth Margaret Thatcher yn Brif Weinidog ar ôl ennill yr etholiad. Roedd gan y Ceidwadwyr 339 o seddi yn Nhŷ'r Cyffredin a chafodd Llafur 269. Cafwyd gogwydd o 5.2% i'r Ceidwadwyr, y mwyaf ers Etholiad Cyffredinol 1945. Yng Nghymru collodd y Rhyddfrydwyr ddwy sedd a chollodd Gwynfor Evans ei sedd yng Nghaerfyrddin; yn yr Alban collodd Plaid Genedlaethol yr Alban naw sedd.
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1979 | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Plaid | Seddi | Etholiadau | % | |||||
![]() |