Demograffeg yr Almaen

Demograffiaeth yr Almaen yw'r astudiaeth o niferoedd a nodweddion poblogaeth yr Almaen. Gyda poblogaeth o tua 82,220,000, yr Almaen yw'r wlad fwyaf o ran poblogaeth sy'n gyfangwbl o fewn Ewrop, a'r 14eg fwyaf poblog yn y byd. O'r rhain, mae tua 16 miliwn heb fod o dras Almaenig, gyda Twrciaid y mwyaf niferus o'r rhain, 1,713,551 yn 2007. Nid yw'r boblogaeth yn cynyddu ar hyn o bryd.

Pyramid poblogaeth yr Almaen.
Poblogaeth yr Almaen 1950–2020 (Cyn 1990, poblogaeth Gorllewin a Dwyrain yr Almaen wedi eu cyfuno).

Gelwir pedwar grŵp o bobl yn "leiafrifoedd cenedlaethol", y Daniaid, Frisiaid, Roma a Sinti, a'r Sorbiaid. Wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd tua 14 miliwn o Almaenwyr ethnig i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop, ac ers y 1960au bu mewnfudiad o Almaenwyr ethnig o Casachstan, Rwsia a'r Wcrain. Er i'r rhan fwyaf o Iddewon yr Almaen gael eu lladd yn yr Holocost, mae'r niferoedd wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda dros 200,000 wedi ymfudo i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop ers 1991.

Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw:

Crefydd

golygu

Y prif enwadau a chrefyddau yw:

Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn ne Bafaria, ac yn ardal Cwlen, tra mae Protestianiaid yn fwyaf niferus yn y gogledd.