Gynecolegydd o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC) yw'r Dr Denis Mukwege Mukengere[1] (ganwyd 1 Mawrth 1955).[2] Mae'n arbenigo mewn trin menywod a ddioddefodd trais rhywiol. Mae Mukwege yn ymgyrchu dros ymrwymiad gan y gymuned ryngwladol i ddod â therfyn i'r gwrthdaro yn y Congo, gan alw ar fandad cryf gan y Cenhedloedd Unedig yn y wlad.

Denis Mukwege
GanwydDenis Mukwege Edit this on Wikidata
1 Mawrth 1955 Edit this on Wikidata
Bukavu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Université libre de Bruxelles
  • Prifysgol Angers
  • Prifysgol Burundi
  • Prifysgol Kinshasa Edit this on Wikidata
Galwedigaethamddiffynnwr hawliau dynol, geinecolegydd, obstetrydd, gweinidog bugeiliol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Panzi Hospital Edit this on Wikidata
PerthnasauFabrice Mvita Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Olof Palme, Chevalier de la Légion d'Honneur, Gwobr Sakharov, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol, Gwobr Dewrder Sifiliaid, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Umea, Gwobr Heddwch Nobel, Wallenberg Medal, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, prix des droits de l'homme de la République française, honorary doctor of the Catholic University of Louvain, Honorary doctor of the University of Liège, honorary doctor of the University of Pennsylvania, honorary doctor from the NOVA University Lisbon, Doethuriaeth er Anrhydedd Université de Montréal, Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, doctor honoris causa from the University of Pau, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Montpellier‎ Edit this on Wikidata

Ganwyd yn fab i weinidog Pentecostaidd yn Bukavu yn nhalaith De Kivu yn y Congo Felgaidd, sydd heddiw yn y DRC. Astudiodd feddygaeth ym Mwrwndi a dychwelodd i'r DRC i weithio mewn ysbyty ym mhentref Lemera. Cychwynnodd ei yrfa mewn pediatreg ond trodd i obstetreg a gynecoleg wedi iddo weld yr amodau llym oedd gan fenywod y cefn gwlad wrth iddynt esgor ar blant. Astudiodd rhagor ym Mhrifysgol Angers, Ffrainc, ac ym 1989 sefydlodd wasanaeth obstetreg a gynecoleg yn Lemera.[2]

Cafodd yr ysbyty ei ddinistrio yn ystod Rhyfel Cyntaf y Congo. Symudodd Mukwege i Bukavu a sefydlodd Ysbyty Panzi ym 1998. Amcan gwreiddiol yr ysbyty oedd i ddarparu gofal i famau a babanod, ond yn fuan bu'n derbyn nifer fawr o ddioddefwyr trais rhywiol.[2] Bu rhyfelwyr ar bob ochr yn treisio menywod a merched fel arf i frawychu a dadleoli sifiliaid. Ers 1998 mae Mukwege a'i gydfeddygon wedi llaw-drin mwy na 30,000 o fenywod a merched i atgyweirio eu horganau cenhedlu.[3]

Ym mis Hydref 2012 bu cais ar fywyd Mukwege yn ei gartref yn Bukavu gan bum dyn â drylliau,[4][5] ac yn sgil hwn symudodd â'i deulu i Frwsel. Dychwelodd i Bukavu yn Ionawr 2013 wedi i gleifion ei ysbyty godi arian trwy werthu pinafalau a winwns.[6]

Enillodd Wobr Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn 2008,[7] Gwobr Olof Palme ac "Affricanwr y Flwyddyn" yn 2009,[8] Gwobr Sakharov yn 2014,[9][10][11] a Gwobr Heddwch Nobel (ar y cyd â Nadia Murad) yn 2018.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Dr. Denis Mukwege. Ysbyty Panzi. Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Denis Mukwege. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  3. (Saesneg) Denis Mukwege: The rape surgeon of DR Congo. BBC (19 Chwefror 2013). Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  4. (Saesneg) Smith, David (26 Hydref 2012). Congolese doctor who worked with rape victims survives murder attempt. The Guardian. Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  5. (Saesneg) Kron, Josh (26 Hydref 2012). Noted Women’s Rights Activist in Congo Eludes Group of Gunmen. The New York Times. Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  6. (Saesneg) Perraudin, Frances a Busari, Stephanie (10 Hydref 2013). Nobel Peace Prize: Congo rape trauma surgeon among favorites. CNN. Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  7. (Saesneg) United Nations Human Rights Prize 2008. Y Cenhedloedd Unedig. Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  8. (Saesneg) DR Congo doctor is 'top African'. BBC (14 Ionawr 2009). Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  9. (Saesneg) Denis Mukwege: winner of Sakharov Prize 2014. Senedd Ewrop (21 Hydref 2014). Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  10. (Saesneg) DR Congo doctor Denis Mukwege wins Sakharov prize. BBC (22 Hydref 2014). Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  11. (Saesneg) Cowell, Alan a Gettleman, Jeffrey (22 Hydref 2014). Denis Mukwege, Congolese Gynecologist, Is Awarded Sakharov Prize. The New York Times. Adalwyd ar 22 Hydref 2014.
  12. (Saesneg) "The Nobel Peace Prize 2018", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2018.

Dolenni allanol golygu