Denys Johnson-Davies
Cyfieithydd a llenor o Ganada oedd Denys Johnson-Davies (enw Mwslimaidd: Abdul Wadud; 21 Mehefin 1922 – 22 Mai 2017) a arloesodd yr arfer o gyfieithu llenyddiaeth Arabeg fodern i'r Saesneg.[1]
Denys Johnson-Davies | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mehefin 1921 Colombia |
Bu farw | 22 Mai 2017 Agouza |
Dinasyddiaeth | Canada, Yr Aifft |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, cyfieithydd |
Ganwyd yn Vancouver, a threuliodd ei blentyndod yng Nghanada, yr Aifft, Wganda, a Swdan. Dysgodd Arabeg gan y bobl leol yn Wadi Halfa, ger y ffin rhwng Swdan a'r Aifft. Teithiodd i Loegr ar ben ei hun yn 12 oed i fynychu ysgol Merchant Taylors yn Swydd Hertford. Er nad oedd yn hoff o'i amser yno, rhagorodd mewn sboncen a daeth yn bencampwr yr ysgol, yn 14 oed. Gadawodd yr ysgol cyn pryd wedi i'r prifathro wrthod rhoi caniatâd iddo ddefnyddio cwrt sboncen y bechgyn hŷn.[2] Mynychodd Goleg y Santes Catrin, Caergrawnt, i astudio Arabeg.
Treuliodd bum mlynedd yn gweithio i wasanaeth Arabeg y BBC yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn 1946 aeth i Gairo gyda'r Cyngor Prydeinig, lle cyhoeddodd ei gyfieithiad cyntaf, cyfrol o straeon gan Mahmud Teymour (1947). Dychwelodd i Loegr ym 1949, ac astudiodd y gyfraith a gweithiodd fel bargyfreithiwr. Sefydlodd gwmni cyfieithu a hefyd y cylchgrawn llenyddol Aswat yn y 1960au. Ceisiodd ddod â sylw'r cyhoeddwyr mawrion at lenyddiaeth Arabeg, a llwyddodd i gyhoeddi'i gyfieithiadau o waith y llenor Swdanaidd Tayeb Salih.
Gweithiodd fel cyfarwyddwr gorsaf radio Arabeg yn Nhaleithiau'r Cadoediad yn niwedd y 1960au, ac yna fel prif ysgrifennydd y Genhadaeth Brydeinig yn Dubai ac fel cyfieithydd rhwng y penaethiaid lleol a'r Prydeinwyr wrth sefydlu yr Emiradau Arabaidd Unedig.[2] Yn y 1970au a'r 1980au, gweithiodd fel cynghorydd busnes i gwmnïau adeiladu oedd am ddatblygu yng ngwledydd Arabaidd y Gwlff. Ymsefydlodd Denys yn adran llenyddiaeth gymharol y Brifysgol Americanaidd yng Nghairo. Fe barhaodd i gyfieithu trwy gydol ei oes, a chyhoeddodd nofelau a straeon byrion gan Yahya Taher Abdullah, Salwa Bakr, Mohamed El-Bisatie, Sonallah Ibrahim a Zakaria Tamer, dramâu gan Tawfiq al-Hakim, a barddoniaeth gan Mahmoud Darwish. Ef oedd hefyd y cyntaf i drosi gwaith Naguib Mahfouz, enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1988, i'r Saesneg.
Roedd ei daid yn Anglicanwr, ei dad yn anffyddiwr, a'i fam yn Gatholig. Er i Denys ymhel â Bwdhaeth am nifer o flynyddoedd, trodd yn Fwslim yn ddiweddarach yn ei oes, a mabwysiadodd yr enw Abdul Wadud. Cyd-gyfieithodd ddwy gyfrol o'r hadith, ac ysgrifennodd straeon i blant gyda themâu o lenyddiaeth Arabeg a'r traddodiad Islamaidd. Bu'n briod teirgwaith, a chafodd fab o'i briodas gyntaf.[2] Cyhoeddwyd ei hunangofiant yn 2006 gan y Brifysgol Americanaidd yng Nghairo, gyda rhagair gan ei hen gyfaill Naguib Mahfouz. Enillodd Wobr Personoliaeth Ddiwylliannol y Flwyddyn, un o wobrau llenyddol y Shîc Zayed, yn 2007.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Denys Johnson-Davies Archifwyd 2017-06-23 yn y Peiriant Wayback, Gwasg y Brifysgol Americanaidd yng Nghairo (22 Mai 2017). Adalwyd ar 19 Mehefin 2017.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Peter Clark. Denys Johnson-Davies obituary, The Guardian (18 Mehefin 2017). Adalwyd ar 19 Mehefin 2017.
- ↑ (Arabeg) (Saesneg) Denys Johnson- Davies Archifwyd 2017-05-18 yn y Peiriant Wayback, Gwobr Lyfr y Shîc Zayed. Adalwyd ar 19 Mehefin 2017.