David Rowlands (Dewi Môn)
clegiwr ac awdur
(Ailgyfeiriad o Dewi Môn)
Llenor Cymraeg a gweinidog oedd David Rowlands, a ysgrifennai dan yr enw barddol Dewi Môn (4 Mawrth 1836 - 7 Ionawr, 1907).[1][2]
David Rowlands | |
---|---|
Dewi Môn (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ffugenw | Dewi Môn |
Ganwyd | 4 Mawrth 1836 Rhos-y-bol |
Bu farw | 1907 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, prifathro coleg, llenor, bardd |
Bywgraffiad
golyguBrodor o Ynys Môn oedd David Rowlands. Cafodd ei addysg yn Y Bala a Llundain. Dychwelodd i Gymru ac ymsefydlodd yn Llanbrynmair fel gweinidog. Symudodd i dref Caerfyrddin ac oddi yno i Aberhonddu yn 1872 i fod yn athro coleg; penodwyd ef yn brifathro yn 1897. Bu farw yn 1907.[1]
Gwaith llenyddol
golyguYstyriwyd Rowlands yn llenor da yn ei ddydd ac enillodd gryn dipyn o fri fel emynydd. Cyhoeddodd gyfrol ar ramadeg Cymraeg, pregethau a thraethodau. Roedd yn gyfaill i'r bardd Tudno, a chyhoeddodd detholiad o'i waith, gyda chofiant iddo, yn 1897 dan y teitl Telyn Tudno.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- David Rowlands, Grammadeg Cymraeg (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1877)
- David Rowlands (gol.), Telyn Tudno (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1897).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Lerpwl, 1922).
- ↑ Owen, J. D., (1953). ROWLANDS, DAVID (‘Dewi Môn’; 1836 - 1907), gweinidog Annibynnol a phrifathro. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Chwefror 2020