Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex

(Ailgyfeiriad o Dictionarum Duplex)

Geiriadur Cymraeg yw'r Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex neu'r Dictionarum Duplex ("Y Geiriadur Dyblyg"), a luniwyd gan y Dr John Davies o Fallwyd ac a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1632. Lladin - iaith ysgolheictod rhyngwladol y Dadeni Dysg - yw iaith y llyfr ar wahân i eiriau ac ymadroddion Cymraeg enghreifftiol yn y testun.

Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex
Enghraifft o'r canlynolgeiriadur Edit this on Wikidata
Rhan o dudalen yn y Dictionarum Duplex

Cynnwys golygu

Prif ran y gyfrol yw geiriadur Cymraeg-Lladin John Davies ei hun. Yn yr ail ran ceir talfyriad y Dr Davies o eiriadur Lladin-Cymraeg yr ysgolhaig Thomas Wiliems o Drefriw sy'n seiliedig ar eiriadur llawysgrif Thomas Wiliems Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ (sydd ar gael yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru erbyn hyn).[1] Seilir geiriadur Wiliems yn ei dro ar waith Thomas Thomas, printiwr cyntaf Prifysgol Caergrawnt, Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae.

Ar ddiwedd y llyfr ceir casgliad o ddiharebion Cymraeg a gasglwyd gan y Dr Davies ei hun.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Testun
  • John Davies, Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarium Duplex (Llundain: Robert Young, 1632)[2]
    • Adargraffiad ffacsimili (Menston Scolar Press, 1968)

Ceir cyfieithiad Cymraeg o'r rhagymadrodd Lladin yn,

  • Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin, 1551-1632 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980), pennawd X

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).
  2. Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin 1551-1632.