Dinamo Tirana

tîm pêl-droed o Albania
(Ailgyfeiriad o Dinamo Tiranë)

Mae Futboll Klub Dinamo Tirana neu. fel arfer, Dinamo Tirana yn glwb pêl-droed yn Tirana, prifddinas Albania. Buont yn un o'r clybiau mwyaf llwyddiannus y wlad, ond maent bellach (2018-19) ac mae'n chwarae yn y Kategoria e Parë, 'Adran Gyntaf' ond ail-reng system pyramid Ffederasiwn Pêl-droed Albania. Mae Dinamo yn chwarae eu gemau cartref yn Stadioni Selman Stërmasi, sy'n dal o 10,000 o wylwyr.

FK Dinamo Tirana
Enw llawnFK Dinamo Tirana
LlysenwauDinamovitët, Blutë (Y Gleision), Nëndetësja Blu (Llongdanfor Las)
SefydlwydMawrth 3, 1950; 74 o flynyddoedd yn ôl (1950-03-03)
MaesStadiwm Selman Stërmasi
, Tirana, Albania
(sy'n dal: 1,000)
CadeiryddBesnik Sulaj
RheolwrIgli Allmuça
CynghrairKategoria e Parë, Grŵp A (ail adran y system byramid)
2017–18Kategoria e Parë, Grŵp A, 5ed
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Mae Dinamo wedi ennill 18 o gynghrair a thri ar ddeg o gwpanau cenedlaethol ac mae'n un o'r timau pwysicaf ym myd pêl-droed Albania. Mae'n cynnal cystadleuaeth ffyrnig gyda'r KF Tirana a'r FK Partizani Tirana. Lliwiau traddodiadol y clwb yn las a gwyn. Gelwir eu ffans pennaf, yr 'Ultras' yn Blue Boys.

Hanes golygu

 
Dinamo Tirana, 1981

Ceir peth amheuaeth dros ddyddiad sefydlu'r clwb. Yn ôl wicipedia yr iaith Albaneg, sefydlwyd Dinamo ar 19 Gorffennaf 1950.[1] Roedd hyn adeg rheolaeth gomiwnyddol ac unbeniaethol y wlad. Sefydlwyd Dinamo, fel sawl clwb 'Dinamo' arall yn yr hen floc Sofietaidd, fel clwb y Weinyddiaeth Gartref ac yn rhan o'r rhwydaith o gymdeithasau chwaraeon Dinamo a sefydlwyd gan sylfaenydd gwasanaeth gudd yr Undeb Sofietaidd yn 1923.

Mae'n un o glybiau mwyaf llwyddiannus y wlad. rhwng 18 Ebrill 1951 - 1 Mehefin 1952 enillont 25 gêm o'r bron.[1] Yn 1971 chwaraeodd y tîm ei gêm gyntaf yn Ewrop gan gystadlu yn hen dwrnament Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

O 1995 i 1997 fe'i gelwir yn KS Olimpik Tirana er mwyn ei dadgysylltu gydag hanes comiwnyddol y Clwb.

Cit golygu

Cartref: Crys glas; trwsus a sanau gwyn
Oddi Cartref: Crys a trwsus gwyn; sanau glas.

Anrhydeddau golygu

  Kategoria Superiore (Uwch Adran)

  • Enillwyr (18): 1950, 1951, 1952, 1953, 1955, 1956, 1960, 1966–67, 1972–73, 1974–75, 1975–76, 1976–77, 1979–80, 1985–86, 1989–90, 2001–02, 2007–08, 2009–10
  • Ail (9): 1954, 1957, 1961, 1962–63, 1963–64, 1970–71, 1980–81, 1984–85, 2003–04

  Cwpan Albania

  • Enillwyr (13): 1950, 1951, 1952, 1953, 1954, 1960, 1970–71, 1973–74, 1977–78, 1981–82, 1988–89, 1989–90, 2002–03
  • Ail (6): 1972–73, 1976–77, 1978–79, 1981–82, 2001–02, 2003–04

Supercup Albania

  • Enillwyr (2): 1989, 2008
  • Ail (4): 1990, 2002, 2003, 2010

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu