Dinamo Zagreb

clwb pêl-droed Croatia

Mae GNK Dinamo Zagreb (neu, fel rheol Dinamo Zagreb) yn un o dimau pêl-droed Zagreb, Croatia. Dinamo yw clwb pêl-droed mwyaf llwyddiannus y wlad a'r unig glwb i ennill cystadlaeth pan-Ewropeaidd. Prif wrthwynebwyr y clwb yw Hajduk Split, gelwyr y gemai darbi yma yn "Darbi Tragwyddol" (Vječni derbi). Llysenw'r clwb yw Modri ("Gleision").

Dinamo Zagreb
Enw llawnGrađanski nogometni klub Dinamo Zagreb, (Citizens' Football Club Dinamo Zagreb)
LlysenwauModri (Y Gleision)
Enw byrDZG, DIN
Sefydlwyd26 April 1911; 112 o flynyddoedd yn ôl (26 April 1911) as HŠK Građanski[1]
9 Mehefin 1945; Error: first parameter cannot be parsed as a date or time. (9 Mehefin 1945) as NK Dinamo
MaesStadion Maksimir
(sy'n dal: 35,123[2])
CadeiryddMirko Barišić
RheolwrNenad Bjelica
CynghrairPrva HNL
2022/23Prva HNL, 1st of 10 (Champions)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis

Hanes golygu

 
Cefnogwyr Dinamo

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, cafwyd wared ar dri o brif glybiau pêl-droed Croatia (HAŠK, Građanski a Concordia). Y tîm fwyaf oedd Građanski a sefydlwyd yn 1911. Ei henw llawn Croatieg oedd Prvi hrvatski građanski športski klub sef; "Y Clwb Chwaraeon Dinesig Croateg Cyntaf") a ddadsefydlwyd gan Tito gan iddo gredu mai clwb "ffasgaidd" a "chenedletholaidd" oedd hi. Ar 19 Mehefin 1945 crëwyd clwb newydd yn y ddinas o'r enw Dinamo (neu "Dynamo") gan ddilyn yr arfer o roi enw ag iddi naws Gomiwnyddol i'r clwb - megis FC Dynamo Kyiv, Dinamo Tirana, Dinamo Tblisi yn yr Undeb Sofietaidd. Mae Cymdeithas Chwaraeon Dynamo yn rwydwaith o glybiau chwaraeon a ddatblygwyd yn yr Undeb Sofietaidd yn 1923 gan ysgogiad Felix Dzerzhinsky, pennaeth heddlu cudd yr Undeb Sofietaidd, yr NKVD ac o'r herwydd fe gysylltir teimau a chlybiau chwaraeon yn yr hen wledydd Sofietaidd gyda'r Weinyddiaeth Cartref a'r Heddlu Cudd.[3][4] Roedd hyn oherwydd fod Tito a'r Phlaid Gomiwnyddol Iwgoslafia wed curo'r Naziaid Almaeneg a oresgynnodd Iwsoglafia yn 1941 a hefyd wedi curo'r brenhinwyr Iwgoslaf oedd am ail-reoli'r wlad fel teyrnas unedig.

Ymunodd y rhan fwyaf o chwaraewyr clwb Građanski, yn ogystal â'r hyfforddwr, â Dinamo, a ddefnyddiodd y stadiwm HAŠK gynt, yn ogystal â rhai chwaraewyr o'r clwb hwn. Mabwysiadodd hefyd liw glas y Građanski ac ers 1969, mae arwyddlun y clwb yn debyg iawn i arwyddlun y clwb hwn.

Dinamo yw'r unig glwb Croateg sydd i ennill tlŵs Ewropeaidd, ar ôl ennill Cwpan Ffeiriau Rhyng-Ddinasoedd 1966–67 trwy drechu Leeds United yn y rownd derfynol. Maent hefyd wedi gorffen yn ail yn yr un gystadleuaeth yn 1963 pan gollon nhw i Valencia CF.

Yn 1991 newidiodd y clwb ei enw i HAŠK-Građanski, ac yn 1993 newidiodd ei enw eto, gan fabwysiadu Croatia Zagreb. Dywedir y bu i'r newid enw i Croatia Zagreb fod o dan bwysau Arlywydd newydd Croatia annibynnol Franjo Tuđjman oedd am sefydlu naws mwy genedlaethol a di-Gomiwynddol i brif clwb y wlad annibynnol newydd. Cysylltwyd y newidiadau enw hyn â chefnogaeth y wladwriaeth Croatia newydd. Ni chafodd yr enwau newydd eu derbyn yn llawn gan y dilynwyr, ac yn 2000 dychwelodd i'w enw NK Dinamo Zagreb. Yn 2011, dechreuodd rheolwyr y clwb yn gynyddol honni bod Dinamo yn ddisgynnydd uniongyrchol i glwb Grakianski (a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1911 ac a ddiddymwyd ym 1945) ac ym mis Ebrill y flwyddyn honno penderfynodd ragflaenu'r ansoddair "Građanski" i enw swyddogol y clwb, gan ei droi'n y GNK Dinamo heddiw (Građanski nogometni klub Dinamo neu "Clwb Pêl-droed Dinasyddion Dinamo").

Gêm Enwog yn erbyn Dinamo Zagreb a diwedd Iwgoslafia golygu

Bydd nifer yn nodi i gêm chwerw ac ymladd rhwng Seren Goch Belgrâd a Dinamo Zagreb [5] ar 13 Mai 1990 arwain, neu rhoi rhagflas, o'r rhyfel a ymraniad yr hen Iwgoslafia ac annibyniaeth Croatia yn 1991.[6] Bu ymladd ffyrnid rhwng "Bad Blue Boys" ffans ultras Dinamo yn erbyn ffans ultra Seren Goch, "Delije". Credai'r Croatiaid bod Seren Goch eisiau ymladd gan wybod y byddai'r heddlu yn eu cefnogi. Ymysg ffans mwyaf cythryblus Seren Goch oedd "Arkan" a oedd yn ôl y newyddiadurwr Dražen Krušelj yr un Arkan a aeth ymlaen i arwain ymladd a lladd yn erbyn Croatiaid yn y rhyfel a ddechreuodd wedi datganiad annibyniaeth Croatia ym Mehefin 1991.[6]

Cit golygu

Glas yw lliw y clwb - crys, trwsus a sannau a dyna sy'n rhoi'r llysenw Modri iddynt. Mae'r arlwyddlun yn cynnwys y lythyren 'D' a hefyd cip o'r arfbais genedlaethol coch a gwyn Croatia y šahovnica (bwrdd gwyddbwyll - o'r gair 'siach' a ddaw yn wreiddiol o'r gair Farsi "Shah" sef 'brenin).

Anrhydeddau golygu

Cystadlaethau Cenedlaethol - Iwgoslafia a Chroatia golygu

Cynghrair Bêl-droed Iwsgolafia (4 fel Dinamo; 5 gwaith fel a ddiddymwyd ym 1945): 1923, 1926, 1928, 1936-37, 1939-40, 1947–48, 1953–54, 1957–58, 1981–82
Cwpan Iwgoslafia (7): 1951, 1959–60, 1962–63, 1964–65, 1968–69, 1979–80, 1982–83
Uwch Gynghrair Croatia (y Prva HNL, 1.): (24): 1992–93, 1995–96, 1996–97, 1997–98, 1998–99, 1999–00, 2002–03, 2005–06, 2006–07, 2007–08, 2008–09, 2009–10, 2010–11, 2011–12, 2012–13, 2013–14, 2014–15, 2015–16, 2017–18, 2018–19, 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23
Cwpan Croatia (15): 1993–94, 1995–96, 1996–97, 1997–98, 2000–01, 2001–02, 2003–04, 2006–07, 2007–08, 2008–09, 2010–11, 2011–12, 2014–15, 2015–16, 2017–18
Supercup Croatia (5): 2002, 2003, 2006, 2010, 2013

Cystadlaethau Tramor golygu

Cwpan y Ffeiriau (1): 1967
Rownd derfynnol Cwpan y Ffeiriau (1): 1963
Cwpan y Balcanau (1): 1977

Gweler Hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://gnkdinamo.hr/EN/Club/History
  2. "Stadion Maksimir". GNK Dinamo Zagreb. Cyrchwyd 2017-07-26.
  3. http://www.dynamo.su/
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 2019-06-12.
  5. https://www.youtube.com/watch?v=TwMq0GF7irE
  6. 6.0 6.1 https://www.youtube.com/watch?v=AFGI7m7_SMM