FK Partizani Tirana
Mae FK Partizani Tirana, neu fel rheol, Partizani Tirana yn glwb pêl-droed yn Tirana, prifddinas, Albania. Mae Partizani yw un o'r clybiau mwyaf llwyddiannus ac wedi ennill 15 pencampwriaeth Kategoria Superiore, 15 Cwpan Albania a Super Cup Albania. Llysenw'r clwb yw Demat e kuq ("Y Teirw Coch" - diddorol yw nodi fod y gair Cymraeg, 'coch' a'r Albaneg 'kuq' yn dod o'r un gwraidd Lladin, coccinus sy'n golygu coch llachar).[1]
Enw llawn | Futboll Klub Partizani Tiranë | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Demat e kuq (Y Teirw Coch) | ||
Sefydlwyd | Chwefror 4, 1946 | ||
Maes | Stadiwm Selman Stërmasi | ||
Cadeirydd | Gazmend Demi | ||
Hyfforddwr | Skënder Gega | ||
Cynghrair | Kategoria Superiore | ||
2020/21 | Kategoria Superiore, 3. | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
| |||
Tymor cyfredol |
Hanes
golyguSefydlwyd y clwb yn 1946 fel Ushtria Kombetare Tirane[2] a gan, ddilyn traddodiad y gwledydd Comiwnyddol o roi timau yn ôl adrannau o'r llywodraeth neu'r lluoedd, dyma oedd tîm fyddin. Ffurfiwyd Ushtria ("byddin" yn Albaneg) o chwaraewyr dau dîm o filwyr oedd eisoes yn bodoli, Liria Korçë a Shkodër Ylli yn 1945.[3] Symudwyd y chwaearwyr gorau o Liria Korçë a Shkodër Ylli i chwarae i Ushtria. Ar 4 Chwefror 1946 sefydlwyd y clwb chwaraeon (gan gynnwys pêl-droed) newydd fel Partizani er cof a dathlu y lluoedd comiwnyddol a ryddhaodd Albania o'r Natsiaid wedi'r rhyfel. Chwaraewyd y gêm gyntaf ar y 4 Chwefror. Oddi ar hynny, mae Partizani wedi bod yn un o glybiau mwyaf Ffederasiwn Pêl-droed Albania.
Yn ei flwyddyn gyntaf bu'r clwb ond yn chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn timau eraill Albaniaid. Ond y flwyddyn ganlynol ymunodd clwb â'r gynghrair, gan ennill y gynghrair wrth ennill 14, 1 gêm gyfartal a cholli 1.[2]
Ynghyd â Dinamo Tirana, Partizani oedd sêr y bencampwriaeth cenedlaethol yn y 50au a'r 60au. Ymhlith y chwaraewyr mwyaf cynrychiol oedd yr Refik Resmja, a enillodd y bencampwriaeth 9 gwaith gan sgorio 59 gôl mewn 24 gêm yn y Kategoria e Pare 1951, sef y chwarawr i sgorio y mwayf o goliau mewn tymor.
Ym 1962 chwaraeodd y tîm am y tro cyntaf mewn cystadlaethau Ewropeaidd ac yn 1970 enillon nhw Cwpan y Balcan, sef cystadleuaeth i dimau clwb o wledydd y Balcanau. Dyma'r unig dwrnamaint rhyngwladol i'w hennill gan dîm o Albania.
Yn dilyn cwymp Comiwnyddiaeth yn 1989 ac yna cwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991 daeth hi'n gynyddol anodd cynnal tîm oedd wedi ei seilio ar y fyddin a gallu'r fyddin i orfodi neu cymell chwaraewyr timau eraill i chwarae iddynt. Er iddynt ennill y dwbl yn 1993 cafwyd cyfnod o ddisgyn allan o'r Kategoria Superiore ac i'r Adran is. Maent bellach (2018-19) yn chwarae yn y Kategoria Superiore.
Cit
golygu- Cartref - Crys, trwsus, sannau coch
- Oddi Cartref - Crys, trwsus, sannau gwyn
Cefnogwyr
golyguMae gan y Partizani gefnogaeth gref gan gynnwys ei Ultras eu hunain, y Ultras Guerrils 08-09 a sefydlwyd drwy uno dau grŵp, Brigada e Kuqe 08 a'r Komandos Ultras. Er gwaethaf eu henw a lliw (coch) does dim cefnogaeth wleidyddol gan yr Ultras i unrhyw garfan wleidyddol. Cefnogir yr Ultras gan nifer o bobl a symudodd i'r brifddinas wedi cwymp Comiwnyddiaeth. Ceir grŵp arall o ultras, y Garda 15. Maent yn trefnu digwyddiadau tiffo fel rhan o'i cefnogaeth i'r clwb.
Prif Wrthwynebwyr
golyguPrif wrthwynebwyr y clwb yw KF Tirana a elwir hefyd yn 'Tirona'. Gelwir hwn y darbi Tirana gwreiddiol. Gwelir Partizani fel tîm y maestrefi ac FK Tirana fel tîm canol y ddinas. KF Tirana yw tîm mwyaf llwyddiannus Albania, gyda Partizani yn drydydd tu ôl Dinamo Tirana. Y gêm darbi arall, yn erbyn Dinamo, yw prif gystadleuwyr eraill Partizani.
Gwobrau
golygu- Enillwyr - (17): 1947, 1948, 1949, 1954, 1957, 1958, 1959, 1961, 1962–63, 1963–64, 1970–71, 1978–79, 1980–81, 1986–87, 1992–93, 2018-19, 2022/23
- Ail (21): 1950, 1951, 1952, 1953, 1955, 1956, 1960, 1964–65, 1965–66, 1968, 1969–70, 1972–73, 1973–74, 1982–83, 1988–89, 1989–90, 1990–91, 1991–92
Cwpan Albania
golygu- Enillwyr (15): 1948, 1949, 1957, 1958, 1961, 1963–64, 1965–66, 1967–68, 1969–70, 1972–73, 1979–80, 1990–91, 1992–93, 1996–97, 2003–04
- Ail (8): 1950, 1951, 1953, 1954, 1973–74, 1984–85, 1987–88, 1988–89
Supercup Albania
golygu- Enillwyr (1): 2004
- Ail (1): 1991
Dwbl
golygu- Cynghrair a Chwpan Albania (6): 1948, 1949, 1957, 1958, 1961, 1963–64, 1992–93
Cwpan y Balcan
golygu- Enillwyr (1): 1970
FK Partizani yn Ewrop
golyguAs of 12 July 2018
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781784611354/?session_timeout=1 The Red Dragon, The - Story of the Welsh Flag Siôn T. Jobbins, Gwasg Y Lolfa, 2016
- ↑ 2.0 2.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-30. Cyrchwyd 2018-11-03.
- ↑ http://www.shkodrasport.com/?option=com_content&view=article&id=5478%3Aloro-borici-kollosi-i-futbollit-shqiptar&catid=45%3Apersonazhe&Itemid=108