Abaty Dinas Basing
Abaty canoloesol yn Sir y Fflint yw Abaty Dinas Basing (Saesneg: Basingwerk Abbey). Saif ger pentref Maes-glas, i'r gogledd o dref Treffynnon, ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, ac mae yng ngofal Cadw. Yn yr Oesoedd Canol gorweddai yng nghwmwd Cwnsyllt, cantref Tegeingl.
Math | adfeilion mynachlog, abaty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Treffynnon |
Sir | Treffynnon |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 18.1 metr |
Cyfesurynnau | 53.288°N 3.20735°W, 53.288039°N 3.207414°W |
Rheolir gan | Cadw |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Sistersaidd |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL001 |
Sefydlwyd yr abaty ym 1132 gan Iarll Caer, gyda mynachod o Savigny. Fe'i sefydlwyd ar safle gwahanol, ond roedd wedi ei ail-sefydlu ar y safle presennol cyn 1157. Ym 1147 daeth yn rhan o Urdd y Sistersiaid, o dan Abaty Buildwas. Yn y drydedd ganrif ar ddeg roedd Llywelyn Fawr yn noddwr i'r abaty, a rhoddwyd Ffynnon Gwenffrewi i'r abaty gan ei fab, Dafydd ap Llywelyn. Caewyd y fynachlog ym 1536.
Roedd gan nifer o Feirdd yr Uchelwyr gysylltiad ag Abaty Dinas Basing. Cysylltir yr abaty â Llyfr Du Basing, llawysgrif a ysgrifennwyd gan y bardd Gutun Owain (bl. 1460-1500). Roedd yr abaty yn arbennig o lewyrchus dan yr abad olaf ond un, Thomas Pennant, oedd yn nodedig fel noddwr beirdd.
Cadw sy'n gyfrifol amdano; yn 2015 peintiwyd sloganau ar furiau'r abaty gan fandaliaid a chafwyd cryn feirniadaeth o Cadw am fethu a gwarchod yr heneb.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Papur The Leader; Archifwyd 2015-04-02 yn y Peiriant Wayback adalwyd 30 Mawrth 2015
Dolenni allanol
golygu- Llun dyfrlliw o Abaty Dinas Basing gan Moses Griffith, o "Casglu'r Tlysau" Archifwyd 2007-10-10 yn y Peiriant Wayback