Dinas Leeds
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Dinas Leeds (Saesneg: City of Leeds).
Math | ardal gyda statws dinas, bwrdeistref fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Efrog |
Prifddinas | Leeds |
Poblogaeth | 789,194 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Judith Blake, Baroness Blake of Leeds |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 551.7065 km² |
Cyfesurynnau | 53.7992°N 1.5492°W |
Cod SYG | E08000035 |
GB-LDS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Bwrdd Gweithredol Cyngor Dinas Leeds |
Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Dinas Leeds |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arweinydd Cyngor Dinas Leeds |
Pennaeth y Llywodraeth | Judith Blake, Baroness Blake of Leeds |
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 552 km², gyda 793139 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Wakefield a Kirklees i'r de, Dinas Bradford i'r gorllewin, a Gogledd Swydd Efrog i'r gogledd a'r dwyrain.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn 38 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf mawr sy'n cynnwys dinas Leeds ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Garforth, Guiseley, Horsforth, Morley, Otley, Pudsey, Rothwell, Wetherby a Yeadon.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 2 Awst 2020