Hob y Deri Dando (rhaglen)

Rhaglen gerddoriaeth ysgafn/poblogaidd Cymraeg ar y BBC a dechreuwyd yn 1964


Rhaglen deledu canu ysgafn Cymraeg oedd Hob y Deri Dando. Darlledwyd hi ar y BBC gyda'r rhaglen gyntaf yn 1964, sef yr un flwyddyn â darllediad cyntaf Top of the Pops. Roedd gan y rhaglen bwyslais ar gerddoriaeth canu gwlad ar y cyfan.[1] Erbyn 1968 roedd sianel TWW wedi herio rhaglen y BBC gydag Ysgubor Lawen. Rhoddodd y rhaglen lwyfan pwysig, hwb ac incwm i sefydlu canu pop Cymraeg, er yr ystyrir cyfres Disc a Dawn a ddechreuodd yn 1966 fel yr un a wnaeth y cyfraniad pwysicaf i foderneiddio’r byd pop Cymraeg ac yna'r hyn a elwid, maes o law, y Sîn Roc Gymraeg.[1]

Hob y Deri Dando
Dechrau/Sefydlu1964 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrRuth Price Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata

Enw'r rhaglen

golygu

Enwyd y gyfres gerddoriaeth ar ôl y gân werin adnabyddus Hob y Deri Dando,[2] sydd, efallai'n awgrymu natur gerddorol, os nad geidwadol y gyfres ar adeg o newid diwylliannol anferth yng Nghymru a Phrydain.

Cynnwys

golygu

Cynhyrchydd y gyfres oedd Ruth Price a hyrwyddwyd i wneud y rhaglen gan Bennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru, Meredydd "Merêd" Evans. Bu i Merêd hefyd gyflwyno'r rhaglen. Aeth ymlaen wedyn i gynhyrchu rhaglen pop gyntaf Gymraeg, Disc a Dawn yn 1966. Recordiwyd y rhaglen o flaen cynulleidfa fyw yng Nghaerdydd.[3]

Mae amserlen rhaglen Rhagfyr 1964 yn nodi'r artistiaid canlynol, gan ddangos rhychwant y diddanwyr: Ivor Emmanuel, Margaret Williams, Olwen Jones, Eiri Jones, Caryl Owens, Ryan Davies, David Reynolds, Jim Howells, Justin Smith, y deuawd Aled a Reg,[4] Derek Boote, a'r Proclaimers.[5] Cyflwynydd arall yn y gyfres oedd y diddanwr Glan Davies (gelwir hefyd yn Glanville Davies).[6]

Ymhlith y cantorion eraill a ymddangosodd ar y gyfres oedd:

Cafwyd cyfraniadau hefyd gan Ryan Davies[10] Hywel Gwynfryn a Glan Davies.[11]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Jones, Craig Owen. "Rhaglenni Teledu Pop". Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
  2. "Hob y Deri Dando (North Wales version)". Tŷ Cerdd. Cyrchwyd 5 Ebrill 2024.
  3. "Cofio'r rhaglen canu ysgafn Cymraeg gyntaf ar deledu'r BBC yn '64". BBC Cymru Fyw. 2024-10-29. Cyrchwyd 2024-10-29.
  4. "WATCH: Gwynedd singer recalls the heady days of the 1960s". Daily Post. 3 Chwefror 2015.
  5. "Hob Y Deri Dando". PROGRAMME INDEX y BBC o'r Radio Times gwreiddiol. 25 Rhagfyr 1964.
  6. "Hob y Deri Dando". BBC Programme Index. 30 Mai 1968. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  7. "Y Diliau". Porth Esboniadur Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 4 Ebrill 2024.
  8. "Tammy: Tom Jones, Benny Hill a brig y siartiau". BBC Cymru Fyw. 7 Tachwedd 2018.
  9. "Jac o Dŷ Coch". Hob y Deri Dando ar sianel Ffarout ar Youtube. 1968.
  10. "Ryan on stage for the Welsh-language music programme 'Hob Y Deri Dando' in 1966". Facebook BBC Radio Wales. 21 Ebrill 2017.
  11. "Atgofion Glan: y diddanwr prysur fu'n gweithio gyda Ryan a Ronnie a Ken Dodd". BroAber 360. 2022.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.