Dmitry Koldun

cyfansoddwr a aned yn 1985


Canwr Belarwsiadd yw Dmitry Aleksandrovich Koldun (Belarwseg: Дзьмітры Аляксандравіч Калдун; Rwsieg: Дми́трий Алекса́ндрович Колду́н; ganwyd 11 Mehefin 1985, Minsk, Belarws). Mae'n canu yn Rwsieg a Saesneg. Cynrychiolodd Koldun yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2007 yn Helsinki, Ffindir. Gorffennodd yn y chweched safle gyda 145 o bwyntiau.

Dmitry Koldun
Ganwyd11 Mehefin 1985 Edit this on Wikidata
Minsk Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBelarws Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Faculty of Chemistry of the Belarusian State University Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, gitarydd, pianydd, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, synthpop Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Gwobr/auGolden Gramophone Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.koldun.name/ Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ers ei fod yn bedair mlwydd oed, uchelgais Koldun oedd i fod yn feddyg ac aeth i astudio meddygaeth yn Ysgol Uwchradd Minsk. Llwyddodd i raddio gyda medal arian yn y maes hwn.

Yn 2002, astudiodd Koldun Gemeg ym Mhrifysgol Talaith Belarws a newidiodd ei uchelgais o fod yn feddyg i fod yn fferyllydd. Llwyddodd yn ei gwrs Cemeg fel y gwnaeth ar ei gwrs meddygaeth, a dywedwyd ei fod yn unigolyn "brwdfrydig".

Yn ddiweddar, synnwyd cefnogwyr Koldun pan gyhoeddwyd ei fod yn dioddef o "esblygiadau" meddygol. Dywedodd y canwr ei fod wedi dioddef problemau difrifol gyda'i wallt a phriodolodd hyn i Drychineb Chernobyl a achosodd sgîl-effeithiau hir-dymor ymbelydredd mewn nifer o wledydd Dwyrain Ewrop gan gynnwys man geni Koldun - Minsk, Belarws. Dywedodd Koldun (cyfieithwyd o'r Saesneg): "Bob blwyddyn, mae fy ngwallt yn newid lliw... pan oeddwn yn yr ysgol, roedd gennyf wallt trwchus. Ond nid nawr. Credaf mai bai trychineb Chernobyl yw hyn." Dywed Koldun fod y wallt golau a oedd ganddo pan oedd yn yr ysgol wedi newid, yn raddol (weithiau dros nos) gan fynd yn dywyllach i'r lliw brown tywyll sydd ganddo heddiw.[1].

Disgograffiaeth golygu

Albymau golygu

  • 2007 - Work Your Magic
  • 2008 - Я Не Волшебник (Dw i ddim yn ddewin)
  • 2009 - Колдун (Koldun)

Senglau golygu

Blwyddyn Sengl Albwm Lleoliadau siart
RWS LAT SBN SWE
2007 "Work Your Magic" Я Не Волшебник 2 3 34 47
"Я Для Tебя"
Ya Dlya Tyebya - Dw i'n amdana ti)
5 23
2008 "Царевна"
(Tsarevna - Tywysoges)
13
"Настройся на Меня"
(Nastroysya na Menya - Tiwniwch i mi)
Колдун 28
Lleoliadau rhif 1
Lleoliadau deg uchaf 2 1

Cyfeiriadau golygu

  1. ["А Колдун все-таки мутантом оказался". Дневник Магия Колдуна (liveinternet.ru). http://www.liveinternet.ru/users/1918962/ Archifwyd 2008-04-27 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd ar 2008-05-27

Dolenni allanol golygu