Agor y brif ddewislen

Mae James Donnelly (Don) Touhig, Barwn Touhig, PC, KSS (ganwyd 5 Rhagfyr 1947) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur Islwyn o 1995 hyd ei ymddeoliad yn 2010. [1]

Don Touhig
Dtouhig.jpg
Ganwyd 5 Rhagfyr 1947 Edit this on Wikidata
Abersychan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Substitute of the Parliamentary Assembly of the Council of Europe Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Llafur a Chydweithredol, Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Urdd Sant Sylvester Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.parliament.uk/biographies/lords/lord-touhig/542 Edit this on Wikidata

Bywyd PersonolGolygu

Ganwyd Touhig yn ardal Pont-y-pŵl, yn fab i Michael Touhig a Catherine Touhig (née Corten) ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gatholig St Francis, Abersychan ac yna Coleg Gorllewin Gwent (Coleg Gwent erbyn hyn) ym Mhont-y-pŵl.

Ym 1968 priododd Jennifer Hughes. Bu iddynt dau fab a dwy ferch. Bu'r Arglwyddes Touhig marw o ganser yn 2014. [2]

GyrfaGolygu

Cyn mynd i'r senedd bu'n Touhig yn newyddiadurwr o 1968-76. O 1976-90, bu'n Olygydd y Free Press of Monmouthshire (Trefynwy). Rhwng 1988 i 1992 bu hefyd yn rheolwr cyffredinol a phennaeth golygyddol grŵp papurau newydd y Free Press. Gwasanaethodd fel rheolwr cyffredinol (datblygu busnes) Grŵp papurau newyddion o 1992 i 1993, ac yna o Gwmni Bailey Print rhwng 1993 a 1995.

Gyrfa WleidyddolGolygu

Ymunodd Touhig a'r Undeb Trafnidiaeth a Gweithwyr Cyffredinol (TGWU) ym 1962 a'r Blaid Lafur ym 1966.

Rhwng 1973 a'i ethol i'r Senedd ym 1995 gwasanaethodd fel cynghorydd Llafur ar Gyngor Sir Gwent.

Yn Etholiad Cyffredinol 1992 Safodd yn enw'r Blaid Lafur fel ymgeisydd yn etholaeth Richmond and Barnes, Llundain gan ddod yn drydydd gwael ar 5.8% mewn cystadleuaeth agos rhwng yr ymgeisydd Ceidwadol buddugol ac ymgeisydd y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Ym 1995 penderfynodd Neil Kinock arweinydd y Blaid Lafur ac Aelod Seneddol Islwyn i sefyll i lawr o'r Senedd. Ar 16 Chwefror 1995 cafwyd is etholiad yn yr etholaeth. Safodd Touhig fel yr ymgeisydd llafur gan gadw'r sedd i'w blaid.

O 1996-i 19977, roedd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd preifat seneddol i Gordon Brown ac fel chwip cyn dod yn weinidog. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo ym 1999 pan gyfaddefodd iddo dderbyn adroddiad Pwyllgor Dethol Nawdd Cymdeithasol ar fudd-dal plant, trwy ddatgeliad answyddogol. [3] Cafodd ei atal yn ddiweddarach am dri diwrnod o Dŷ'r Cyffredin [4] Bu'n Is Ysgrifennydd Gwladol yn y Swyddfa Gymreig rhwng 2001 a 2005. Roedd yn weinidog iau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chyfrifoldeb arbennig dros gyn-filwyr, ond gadawodd y llywodraeth yn ad-drefniad Mai 2006. Fe'i gwnaed yn Aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 19 Gorffennaf 2006.

Ar 29 Ionawr 2010 cyhoeddodd Touhig nad oedd am ail sefyll i gadw ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 2010. [5]

Ar 28 Mehefin 2010 fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Touhig, o Islwyn a Glansychan yn Sir Gwent. [6] Yn Nhŷ’r Arglwyddi gwasanaethodd fel llefarydd yr wrthblaid ar amddiffyn rhwng 2015 a 2017.

Yn 2011 dywedodd y byddai'n pleidleisio’n erbyn cryfhau pwerau deddfu’r Cynulliad yn Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 [7]

AnrhydeddauGolygu

Derbyniodd yr anrhydedd Gatholig Marchog Urdd San Sylvester gan y Pab ym 1991.

CyfeiriadauGolygu