Davyth Fear
Naturiaethwr, ysgolhaig ac athro wedi’i ymddeol yw Davyth Fear (g. David Frederick Fear ar 17 Mawrth 1960), sy’n byw yng Nghymru [1]. Fe’i ganwyd ym Mryste ond symudodd i Fanceinion yn blentyn ifanc; ef yw’r hynaf o bedwar o blant. Symudodd ei deulu pan oedd yn ei arddegau i Gernyw ble fuodd yn ddisgybl yn Launceston College a ble ddatblygodd ei ddiddordeb mewn ieithoedd a diwylliant Celtaidd [2]. Erbyn 1982 roedd wedi mabwysiadu’r ffurf Gernywaidd o’i enw, Davyth, ac ymunodd a'r Undeb Celtaidd. Bu’n Is-ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb rhwng 1984 a 1988, ac Ysgrifennydd Cyffredinol rhwng 1988 a 90.
Davyth Fear | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 1960 Bryste |
Galwedigaeth | naturiaethydd, ieithydd |
Ym 1984 symudodd i Gymru gan ddysgu Cymraeg. Ym 1986 cyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun.[3] Yn ystod 1986-7 trefnodd y record aml-gyfrannog cyntaf o ganeuon pop a roc yn y chwe iaith Geltaidd (Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban and Manaweg) gyda’r enw 'Keltia Rok'. Rhyddhawyd ar label Recordiau Sain yn 1987 ar gyfer yr Eisteddfod ym Mhorthmadog. Roedd yn cynnwys y caneuon roc cyntaf i gael eu rhyddhau erioed yn yr ieithoedd Cernyweg a Manaweg.[4].[5] Crynhaodd y New Musical Express, cylchgrawn cerddoriaeth Seisnig, y record fel a ganlyn: “Yn y pendraw, arwyddocad y record yw bod yr ieithoedd hyn yn fyw ac nid mewn amgueddfeydd.”[6] Yn ôl y cylchgrawn ‘Welsh Music History’, roedd yn gam mawr ymlaen ar gyfer diwylliant cerddoriaeth cyfoes yn y cenhedloedd Celtaidd.[7]
Yn dilyn ymweliad i Simbabwe sefydlodd weithgor o naturiaethwyr er mwyn safoni enwau adar Affrica yn y Gymraeg. Wedyn safonodd y grŵp enwau adar Ewrop ar gyfer gwefan Avionary. Helpodd Davyth drefnu’r rhestri adar yn y Gernyweg, Manaweg, Gaeleg yr Alban a Llydaweg.,[8] Aeth y grŵp ymlaen i greu rhestr o enwau adar y byd cyfan.[9]. Troswyd rhestr adar y byd gan algorithm ddatblygwyd gan Brifysgol Bangor a Wikimedia UK i bron 10,000 o dudalenni Wicipedia yn y Gymraeg.[10] Ffrwyth llafur hyn oll oedd ychwanegu dros 17,000 o ffotograffau o Comin Wicimedia i eiriadur 'Y Bywiadur'.
Gweithiodd Davyth fel athro Daearyddiaeth yn gyntaf yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, ac yna Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn. Ymhlith y disgyblion dysgwyd ganddo mae George North a Gareth Wyn Williams. Yn ystod y cyfnod hyn ysgrifennodd nifer o erthyglau i werslyfrau a chylchgronau daearyddiaeth Cymraeg [11], ac arweiniodd deithiau ysgol i nifer o wledydd.[12]
Yn 2019 ymddangosodd Davyth yn y rhaglen deledu Who Wants to Be a Millionaire? ble ddaeth i fod y 10fed cystadleuydd i ennill £500,000. Ei ymddangosiad oedd yn hynod am ei ddefnydd o 'Ask the audience' ar gyfer y cwestiwn £500,000.[13] Dyna oedd yr ail achlysur yn unig ar y rhaglen yn ei newydd wedd gyda Jeremy Clarkson bod rhywun wedi wynebu cwestiwn £1,000,000.
Ym Mis Medi 2020, daeth ei frawd, Donald Fear, i fod y chweched i ennill £1,000,000 ar yr un rhaglen, a’r cyntaf i wneud hynny heb ddefnyddio pob un o’i raffau diolgelwch.[14] Yn 2020 ymddangosodd Davyth ar raglen cwis 'Mastermind Cymru' gan orffen yn bumed, ac yn 2022 ar raglen 'Eggheads' efo'i frawd. [15][16]
Rhwng 1995 a 2022 bu’n ysgrifennydd Cymdeithas Seryddol Gwynedd, gan gyflwyno dros 65 o ddarlithoedd iddynt dros y blynyddoedd[17]. Mae o hefyd yn aelod o dîm croce golff Llanfairfechan sy’n chwarae yn Nghynghrair y Gogledd Orllewin [18] a Chlwb Camera Dyffryn Ogwen.[19]
Yn 2020 dechreuodd ddysgu'r iaith Gernyweg. Erbyn mis Chwefror 2023 roedd wedi ysgrifennu dros 1,000 erthygl yn yr iaith honno. Mae'n aelod o Banel Terminoleg yr iaith. Cafodd ei urddo fel bardd o Orsedd Cernyw yn 2023 gyda'r enw barddol 'Karer Kedhlow', (Carwr Gwybodaeth).[20] Ym mis Mehefin 2023, y rhoddodd y trydydd Darlith Blynyddol ar ran yr Akademi Kernewek ar y destun o 'safoni enwau adar'. [21]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [1]; millionaire.fandom.com; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ Cyfweliad ar gyfer https://www.saysomethingin.com/welsh/advanced Archifwyd 2020-06-29 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 6 Gorffennag 2020.
- ↑ [2]; bbc.co.uk; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ [3]; discogs.com; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ pton.cymru Archifwyd 2019-09-09 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ bibliotheque.idbe-bzh.org bibliotheque.idbe-bzh.org Archifwyd 2021-11-18 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 56 Gorffennaf 2020
- ↑ journals.library.wales; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ avionary.info; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ termau.cymru
- ↑ Gwefan Wikimedia UK; blog gan Robin Llwyd ab Owain; 17 Tachwedd 2016; adalwyd 6 Gorffennaf 2020.
- ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-07-11. Cyrchwyd 2020-07-01.
- ↑ [4]
- ↑ [5]
- ↑ "Who wants to be a millionaire: Teacher beats brother to win jackpot". BBC Entertainments and Arts. 11 Medi 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-12. Cyrchwyd 12 Medi 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ [6]
- ↑ https://www.shropshirestar.com/entertainment/telford-entertainment/2022/02/19/telford-quizzersled-by-who-wants-to-be-a-millionaire-brothers-take-on-the-eggheads/
- ↑ "copi archif". Cymdeithas Seryddol Gwynedd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-01. Cyrchwyd 2023-03-01.
- ↑ [7]
- ↑ [8]
- ↑ Jones, Carwyn (1 Sep 2023). "Gorsedd Cernyw yn derbyn Cymnro o Lanrug i'w plith". BBC CymruFyw. Cyrchwyd 1 Sep 2023.
- ↑ Fear, Davyth (5 Sep 2023). "Savonegi Henwyn Ydhyn". YouTube. Cyrchwyd 5 Sep 2023.