Agor y brif ddewislen

Tref hanesyddol a phlwyf sifil yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Sandwich.[1] Roedd yn un o'r Cinque Ports ac mae dal nifer o adeiladau canoloesol i'w cael yno. Er porth bwysig oedd hi yn y gorffennol, fe'i leolir dwy filltir o'r môr erbyn hyn, â'i chanolfan hanesyddol cadwedig.[2] Mae Caerdydd 315.5 km i ffwrdd o Sandwich ac mae Llundain yn 104.5 km. Y ddinas agosaf ydy Caergaint sy'n 19 km i ffwrdd.

Sandwich
St Thomas' Hospital Sandwich, Kent.jpg
Math Tref, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Dover
Gefeilldref/i Ronse, Sonsbeck, Honfleur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Caint
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 859 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.2747°N 1.3389°E Edit this on Wikidata
Cod SYG E04004919 Edit this on Wikidata
Cod OS TR335585 Edit this on Wikidata
Cod post CT13 Edit this on Wikidata

Gwasanaethir y dref gan orsaf reilffordd Sandwich.

HanesGolygu

Cyn i Sandwich ddod yn Cinque Port, roedd tref Sacson hynafol Stonar eisoes wedi ei sefydlu ac wedi ei leoli ar lan cyferbyn a Sandwich ym moryd Wantsum, wrth geg yr Afon Stour. Roedd y dref yn weddol bwysig hyd yr 14g. Mae olion caer Rufeinig mawr Richborough gerllaw hefyd.

Ar 21 Mai 1216, glaniodd Tywysog Louis o Ffrainc yn Sandwich er mwyn cefnogi rhyfel y barwniaid yn erbyn John, brenin Lloegr.

Yn 1255, fe lanwyd yr Eliffant caeth cyntaf yn Lloegr, yng nghei Sandwich, anfonwyd fel anrheg gan frenin Ffrainc i Harri III, brenin Lloegr, a cymerwyd yr eliffant oddiyno i sŵ y brenin yn Nhŵr Llundain.[3]

Pedair mlynedd ar ôl heddwch anesmwyth yn Lloegr, ar 28 Awst 1457, roedd y brenin yn llywodraethu teyrnas a oedd yn diflannu, roedd yn barwniaid ffiwdal yn ymddwyn fel arglwyddi yn rheoli'r boblogaeth yng ngogledd a gorllewin y deyrnas. Fe gymerodd y Ffrancod fantais o'r sefyllfa gan anfon mintai ymosod i Gaint, a llosgi'r rhan fwyaf o Sandwich. Daeth tua 4,000 o ddynion o Honfleur, o dan arweinyddiaeth Marshal de Breze, i'r lan i anrheithio'r dref, gan lofruddio'r maer yn y broses, sef John Drury. Sefydlwyd traddodiad ers hynny sy'n dal i barhau, sef bod maer Sandwich yn gwisgo mantell ddu yn galaru'r digwyddiad.

Yn ddiweddarach, enillodd Sandwich yn sylweddol o'r sgiliau a ddaeth i'r dref gyda'r nifer fawr o anheddwyr Iseldireg, a dderbyniodd yr hawl i anheddu yno gan Elisabeth I, brenhines Lloegr yn 1560. Daeth yr anheddwyr a thechnegau garddio marchnad gyda nhw, ac roeddent yn gyfrifol am dyfu'r seleri cyntaf yn Lloegr. Daeth y ffoaduriaid Huguenot a nifer o dechnegau pensaerniaeth Iseldireg gyda nhw hefyd, ac mae hynny gymaint yn rhan o Gaint heddiw a bythynod to gwellt. Mewnforwyd technegau cynhyrchu sidan yn ogystal, gan wella diwydiant defnydd Caint.

Enw'r drefGolygu

Ffurf gynharaf Eingl-Sacsoneg yr enw hyd y gwyddys, oedd Sond-wic. Ystyr yr enw felly yw tref farchnad ar dir dywodlyd.

Mae'r dref yn rhannu ei enw yn Saesneg â phryd hawdd o fwyd, sef sandwich, (neu brechdan yn Gymraeg). Nid oes â'r dref ddim a wnelo â brechdanau, sydd wedi cael yr enw o ddyfeisydd honedig y math o fwyd, sef y 4ydd Iarll Sandwich.

Melinau GwyntGolygu

 
"White Mill"

Roedd gan Sandwich o leiaf wyth melin wynt dros y canrifoedd. Mae'r cyfeiriad cynharaf at felin yn dyddio o 1608.[4]

"White Mill"

White Mill yw'r unig felin sydd wedi goroesi. Adeiladwyd ym 1760, a gweithwyd gan wynt hyd 1929, ac yna gan fodur hyd 1957. Mae wedi cael ei atgyweirio fel amgueddfa werin a threftadaeth erbyn heddiw.

"Black Mill"

Melin gyrchu a losgwyd i lawr tua 1910.[5].

Melin Post

Safodd melin post ger y Black Mill, a gweithwyd nhw ar y cyd.[5]

Melinoedd Millwall

Adnabyddwyd y felin gyrchu ar y Millwall hefyd fel y "Town Mill". Llosgwyd hwnnw i lawr, a gwyddwn yr adeiladwyd melin arall o ryw fath yn Millwall.[5]

Melin wynt

Safodd y chweched melin wynt i'r gogledd orllewin o Sandwich, ac i'r gorllewin o'r rheilffordd. Roedd yn ffurfio grŵp o dri melin ynghyd â Black Mill a'r melin post.[5]

"New Cut"

Nodwyd dau felin wynt yn New Cut, ar foryd y Stour. gan Hasted. Mae'n debygol mai melinau pwmpio oeddent, yn gysylltiedig gyda'r gweithfeydd halen a oedd yno yn yr 18g hwyr.[4]

Adeiladau a chofadeiladauGolygu

 
Ysbyty Sant Tomos
  • Barbican
  • Fisher Gate
  • Guildhall
  • Melin Gwyn
  • Tafarn Admiral Owen
  • The Salutation
  • Ysbyty Sant Tomos

CyfeiriadauGolygu

  1. British Place Names; adalwyd 29 Mehefin 2018
  2. "It had just closed up, and now it was preseved, two miles from the sea, in its own rich silt." Paul Theroux, The Kingdom by the Sea (Llundain, 1983), t.33.
  3. Alan Major, Hidden Kent (Newbury, 1994)
  4. 4.0 4.1 Jenny West, The Windmills of Kent (Llundain, 1973), t.68-71
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 William Coles Finch, Watermills and Windmills (Llundain, 1933), t.271-72
Chwiliwch am Sandwich
yn Wiciadur.