Draenen ddu
Eirin tagu
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Prunus
Is-enws: Prunus
Rhan: Prunus
Rhywogaeth: P. spinosa
Enw deuenwol
Prunus spinosa
L.

Coeden o fath Prunus sy'n tyfun hyd at 5 metr (8 troedfedd) ydy'r Ddraenen ddu (Lladin: Prunus spinosa), ac fe'i ceir yng Nghymru ac ledled Ewrop, Asia a gogledd-orllewin Affrica.[1][2] Fe'i plannwyd yn ddiweddar yng Ngogledd America a Seland Newydd, ble mae hi hefyd yn llewyrchu. Mae eirin bdon bach, eirin tagu, ac eirin y perthi yn enwau eraill ar y goeden ac yn cyfeirio at ei ffrwyth, sy'n cael eu defnyddio i wneud y ddiod gartref traddodiadol hwnnw: jin eirin. Pan geir cyfnod oer yn y Gwanwyn pan fo'r ddraenen ddu'n blodeuo fe’i gelwir yn "Aeaf y Ddraenen Ddu".

Draenen ddu (Prunus spinosa): blodau, eirin tagu, hadau a dail mewn darlun gan Otto Wilhelm Thomé (1885).

Mae'r term gwyddonol (Lladin) spinosa yn cyfeirio at ddrain miniog y planhigyn, sy'n nodweddiadol o'r teulu hwn, fel mae'r enw Saesneg blackthorn, hefyd.

Blodau ddechrau'r gwanwyn

Mae'r dail yn cael eu bwyta gan siani flewog y gwyfynod canlynol (ymhlith eraill): Pavonia pavonia, Scythropia crataegella) a Coleophora anatipennella. Mae'r gwyfyn a elwir yn Esperia oliviella yn bwyta ei phren marw.

Y pren golygu

Mae'r pren yn llosgi'n dda: yn araf gyda chryn wres.[3] Cabolir ei phren gyda chŵyr ac fe'i ddefnyddir i wneud offer i'r saer ac i wneud ffyn cerdded. Yn Iwerddon, defnyddir y pren i wneud shillelagh sef math o erfyn taro.[4] Mae swyddogion byddin Lloegr hefyd yn arfer y traddodiad o gario ffyn o bren y ddraenen ddu.

Pennill golygu

“Pan fo'r ddraenen ddu yn wyn,
A gwallt ei phen yn gwynu.
Mae hi'n gynes dan ei gwraidd,
Cei hau dy hâd pan fynni.”

Cyfeiriadau golygu

  1. Rushforth, K. (1999). Trees of Britain and Europe. Collins ISBN 0-00-220013-9.
  2. Den Virtuella Floran: Prunus spinosa map
  3. The Scout Association 1999. The Burning Properties of Wood, London, U.K. [1] Archifwyd 2012-12-23 yn y Peiriant Wayback.
  4. Chouinard B.A., Maxime. The stick is king: The Shillelagh Bata or the rediscovery of a living Irish martial tradition. http://www.freifechter.com/files/stick_edited.pdf. Adalwyd 5 Gorffennaf 2011.

Gweler hefyd golygu

]]