Gwleidydd o'r Alban yw Drew Hendry (Andrew Egan Henderson "Drew" Hendry; (ganwyd 21 Mai 1964)[1]) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey; mae'r etholaeth yn Ucheldir yr Alban. Mae Drew Hendry yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Ef yw Llefarydd yr SNP dros Drafniaidaeth.

Drew Hendry
Drew Hendry


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Danny Alexander
Democratiaid Rhyddfrydol

Geni (1964-05-21) 21 Mai 1964 (59 oed)
Caeredin, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Inverness, Nairn, Badenoch a Strathspey
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/
Enw llawn: Andrew Egan Henderson "Drew" Hendry

Deffrowyd ef yn wleidyddol gan Refferendwm Annibyniaeth yr Alban yn 1979.[2] Bu'n gweithio yng Nghaeredin hyd at 1999 pan symudodd ef a'i wraig i bentref Tore yn nwyrain Ucheldir yr Alban. Sefydlodd gwmni bychan yn y dref gyfagos yn 1999: teclan ltd, a leolwyd yn Inverness, a oedd yn cynnig gwasanaeth digidol a chyfrifiadurol i werthwyr dros y we.[2]

Bu'n gynghorydd sir ar Gyngor Ucheldir yr Alban ers 2007 ac yn arweinydd y cyngor hwnnw rhwng 2012 a 2015. Bu'n gyfrifol am ddod a lleiafswm cyflog (neu living wage) i'r sir - cyn i hynny ddod yn boblogaidd yn dilyn ymgyrch yr SNP yn Etholiad 2015.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Drew Hendry 28838 o bleidleisiau, sef 50.1% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 31.4 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 10809 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Tystysgrif geni Andrew Egan Henderson Hendry, 21 Mai 1964, Edinburgh District 8207/89 4807 – National Records of Scotland
  2. 2.0 2.1 Ross, Hugh (27 Mai 2012). "What makes new Highland Council leader tick?". Ross-shire Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-11. Cyrchwyd 12 Hydref 2012.
  3. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  4. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban