Cogydd yw Dudley Newbery (ganwyd 11 Hydref 1957)[1] sy'n adnabyddus am sawl rhaglen goginio ar deledu Cymraeg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau o ryseitiau ac yn hyrwyddo bwyd a chynnyrch Cymreig.[2]

Dudley Newbery
Ganwyd1957 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Magwyd Dudley Arthur William Newbery[1] yn Ynysybŵl ger Pontypridd. Roedd ei fam yn gogydd da, ac roedd ei dad yng ngwasanaeth arlwyo'r RAF. Roedd ei famgu hefyd yn pobi teirgwaith yr wythnos.[3]

Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton, Ysgol Gyfun Rhydfelen ac aeth ymlaen i'r Coleg Bwyd a Thechnoleg (nawr yn rhan o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd) yng Nghaerdydd.[4]

Tra oedd yn fyfyriwr, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ar y rhaglen Bilidowcar. Daeth yn fwy adnabyddus fel cogydd ar raglen Heno[5] ac yna nifer fawr o raglenni teledu ei hun ar S4C yn cynnwys Dudley, Dolig Dudley, Dudley yn Gwledda, Dudley: Ar Daith, Dudley: Pryd o Sêr, Dudley: Cymru ar Blât, Dudley: O'r Gât i'r Plât, Tigh Dudley, Casa Dudley a Chez Dudley.[6]

Bywyd personol

golygu

Mae'n briod a Nia ac mae ganddynt ddau o blant - Cadi a Rhys, sydd hefyd yn gogydd.[7]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Cofnodion cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau. findthecompany.co.uk. Adalwyd ar 27 Ebrill 2016.
  2. Robert Llewellyn-Jones. Why I'm determined to put Welsh produce and cuisine firmly on the map, by TV chef Dudley Newbery (en) , Wales Online, 16 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd ar 27 Ebrill 2016.
  3. (Saesneg) Culinary 6 Nations - Week Four - Ireland V Wales. RTE (12 Mawrth 2010). Adalwyd ar 27 Ebrill 2016.
  4.  Y Lolfa, Awdur, Dudley Newbury. Y Lolfa. Adalwyd ar 27 Ebrill 2016.
  5.  Dudley yn Gwledda: Llambed. S4C. Adalwyd ar 27 Ebrill 2016.
  6.  S4C - Dudley. S4C. Adalwyd ar 27 Ebrill 2016.
  7.  Nadolig yn nhŷ'r teulu Newbery. S4C. Adalwyd ar 27 Ebrill 2016.

Dolenni allanol

golygu