Dueglys Iwerydd
Dueglys Iwerydd Plagiochila bifaria | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Plagiochilaceae |
Genws: | Plagiochila |
Rhywogaeth: | P. bifaria |
Enw deuenwol | |
Plagiochila bifaria |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Dueglys Iwerydd (enw gwyddonol: Plagiochila bifaria; enw Saesneg: Killarney featherwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Yr hen enw ar y rhywogaeth hon oedd Plagiochila killarniensis.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru yn enwedig ar dir sydd ychydig yn galchog.
Disgrifiad
golyguMae P. killarniensis fel arfer yn ffurfio twmpathau neu glytiau gwyrdd tywyll, brown golau neu borffor-frown, er y gall haenau mwy helaeth ddatblygu mewn safleoedd ffafriol. Mae 'r coesynnau'n tyfu hyd at 3 mm o led, ac mae'r dail bob yn ail ac fel arfer yn cael eu gorchuddio ac yn gorgyffwrdd, gyda dau ddant mawr ar y pigyn a dannedd pigog afreolaidd ar yr ymyl gefn.
Cynefin
golyguMae Dueglys iwerydd (P. killarniensis) fel arfer yn tyfu ar greigiau a choed yng nghoetiroedd yr Iwerydd, ond gall gyrraedd llethrau ar dir uwch os gall ddod o hyd i gysgod a lleithder.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.