Dueglys calch
Dueglys calch Pedinophyllum interruptum | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Adelanthaceae |
Genws: | Pedinophyllum |
Rhywogaeth: | P. interruptum |
Enw deuenwol | |
Pedinophyllum interruptum |
Math o blanhigyn, di-flodau, prin iawn ac un o lysiau'r afu yw Dueglys calch (enw gwyddonol: Pedinophyllum interruptum; enw Saesneg: craven featherwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.
Ceir coesynnau 1 – 3 mm o led, ond gall ffurfio clytiau sylweddol ar y ddaear, pan fo'r amodau'n ffafriol. Gall yr egin fod yn wyrdd. Mae'r dail yn bennaf yn gogwyddo ychydig ymlaen o'r coesyn yn hytrach nag yn ôl fel yn Plagiochila. Maent yn grwn neu'n oblong, tua 1.5 mm o led a hyd, ac efallai y bydd dant ar bob cornel.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.