Cyfrol gan Aled Jones Williams a Cynog Dafis yw Duw yw'r Broblem a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]

Duw yw'r Broblem
AwdurAled Jones Williams a Cynog Dafis
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi09/03/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781845275570
GenreCrefydd yng Nghymru

Cyfrol yw hon gan ddau awdur gwahanol iawn o ran eu diwinyddiaeth a'u syniadaeth, ond dau Gristion sydd yr un mor rhwystredig ynglŷn â sefyllfa crefydd yng Nghymru heddiw, ac sydd, er gwaethaf eu gwahaniaethau barn, yn digwydd dod i'r un casgliad: mai Duw yw'r broblem.

Adolygiad John Roberts

golygu

Dywed John Roberts: dyma gyfrol i gorddi dyfroedd byd crefydd yng Nghymru, er nad hynny yw'r bwriad. Mae'n gyfrol sydd, o'i chychwyn cyntaf, yn gwrthod y syniad o Dduw fel bod goruwchnaturiol. I'r ddau awdur, creadigaeth meddwl neu ddychymyg dynol yw Duw a chredant fod lliaws mawr o'u cyd-Gymry yn rhannu'r gred hon. Ond yn wahanol iawn i lawer iawn o awduron a meddylwyr eraill sydd yn arddel yr un syniad, mae'r ddau o'r farn fod gan grefydd gyfraniad gwerthfawr ac angenrheidiol yn y byd. Cyfrol yw hon sydd wedi ei pharatoi ar gyfer y bobl hynny sy'n teimlo braidd yn anghysurus mewn eglwysi sy'n siarad am Dduw fel y "Crëwr hollalluog" neu fel "Arglwydd popeth", ac sydd, o ganlyniad, yn cael eu temtio i droi cefn ar grefydd. Mae Cynog Dafis ac Aled Jones Williams yn cynnig cyfiawnhad i'w meddylfryd a gwerth i'w math hwy o grefydda.

Aled Jones Williams sy'n agor y gyfrol gan geisio cyflwyno'i thema yn gryno. Mae'n ddarn sy'n defnyddio iaith yn ddychmygus a lliwgar, ac i raddau yn pwysleisio'r dirgelwch sydd mewn crefydd ac yn y gair 'Duw'. Yna y mae rhan helaethaf y gyfrol yn drafodaeth athronyddol a diwinyddol swmpus o eiddo Cynog Dafis. Yn ei ddull manwl a gofalus y mae Cynog Dafis yn olrhain syniadaeth gwahanol ddiwinyddion a llenorion am y bod o Dduw gan bwyso a mesur y damcaniaethau a'r trafodaethau a cheisio dod i gasgliadau. Dylid darllen y gyfrol petai dim ond er mwyn edmygu gallu Cynog Dafis i grynhoi syniadaeth a dadleuon cymhleth mewn ychydig eiriau dethol. Ceir yma drafodaeth ar syniadau pobl mor amrywiol â T. Gwynn Jones a Karen Armstrong, T. Rowland Hughes a Dewi Z. Phillips, Richard Dawkins a Walford Gealy neu Stephen Nantlais Williams, a phob un yn cael ei grynhoi a'i dafoli yng nghlorian yr awdur. Mae'n drafodaeth swmpus a'r cyfan yn nghyd-destun y cwestiwn mawr, 'A ellir credu mewn Duw Goruwchnaturiol yn yr 21g?'

Mae'r ddau awdur yn eu rhagarweiniad yn nodi eu bod yn gytûn ar dri datganiad sylfaenol, sef na ellir credu mewn Duw goruwchnaturiol yn y ganrif bresennol; yn ail, nad drwy ddadl ac ymresymu y mae cyffwrdd â'r crefyddol a'r ysbrydol ond drwy'r dychymyg; ac yn drydydd, bod crefydd yn rhywbeth sy'n adlewyrchu angen dwfn ac arhosol yn natur dyn am ddimensiwn ysbrydol. Ym marn John Roberts, dyma wendid y gyfrol. Mae eu cytundeb yn un dogmatig a ffwndamentalaidd ei natur, ac oherwydd hynny mae'n gosod y drafodaeth yn yr union faes y maen nhw eu hunain yn nodi ei fod yn dir hesb wrth geisio amgyffred y crefyddol a'r ysbrydol.

Ond gwendid neu beidio, dyma gyfrol sydd yn sicr o herio confensiynau, gorfodi trafodaeth ac ysgogi pobl i holi a stilio ynghylch eu ffydd neu eu diffyg ffydd.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.