Polau yfed ar y Sul yng Nghymru

Cafodd Polau yfed ar y Sul yng Nghymru eu cynnal mewn rhannau o Gymru rhwng 1961 a 1996 er mwyn pennu os oedd ardal llywodraeth leol am wahardd neu am ganiatáu yfed mewn tafarnau ar ddydd Sul.

Cefndir golygu

O dan Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881 doedd dim hawl gyfreithiol gan rai busnesau trwyddedig, (tafarnau a siopau manwerthu yn bennaf) gwerthu diodydd meddwol ar ddydd Sul. O dan Ddeddf Trwyddedu 1961 rhoddwyd hawl i etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru i benderfynu os oeddynt am ganiatáu gwerthu alcohol yn eu dosbarth. Roedd pôl i'w gynnal os oedd 500 o etholwyr yn galw am ei gynnal.

Crëwyd corff o'r enw Y Cyngor Dros Agor ar Saith Niwrnod ei greu gan y tafarnwyr a'r bragwyr i ymgyrchu dros agor ar y Sul. Roedd yr ymgyrch dros gau ar y Sul yn cael ei gefnogi gan gapeli anghydffurfiol, mosgiau Mwslimaidd a chymdeithasau dirwestol. Bu nifer o genedlaetholwyr a rhai grwpiau cenedlaetholgar megis Mudiad Adfer a oedd yn credu bod cau ar y Sul yn creu arwahanrwydd i Gymru hefyd yn cefnogi cadw'r tafarnau ar gau.

Ar ôl y refferendwm cyntaf ym 1961 rhannwyd Cymru yn ardaloedd sych (ar gau ar y Sul) a gwlyb (ar agor).

Roedd cau ar y Sul yn cael mwy o gefnogaeth, ar y cyfan, gan Gymry Cymraeg na gan bobl di-Gymraeg a honnir gan rai bod y crebachu tua'r gorllewin o'r ardaloedd a barhaodd yn sych rhwng 1961 a 1996 yn adlewyrchiad o ffawd yr iaith.[1]

Refferendwm 1961 golygu

 

Cynhaliwyd y refferendwm cyntaf ar yfed ar y Sul ar 8 Tachwedd 1961. Dyma'r unig dro y bu polau trwy Gymru benbaladr. Bwriwyd pleidlais gan 46.8% o'r rhai oedd a'r hawl i bleidleisio. Pleidleisiodd 453,711 (53.7%) o blaid agor a 391,123 (46.3) i gadw'n sych.

Pleidleisiodd y pedair bwrdeistref sirol, sef Caerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful a Chasnewydd yn wlyb fel y gwnaeth pump o'r siroedd - Sir Fflint, Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed, Sir Forgannwg a Sir Fynwy.

Refferendwm 1968 golygu

Ym 1968 parhaodd y siroedd oedd wedi pleidleisio o blaid agor ar y Sul ym 1961 i agor ar y Sul a throdd tair sir o sych i wlyb, sef Sir Ddinbych, Sir Drefaldwyn a Sir Benfro. Pleidleisiodd 29% o'r etholfraint gyda 320,123 o blaid yfed ar y Sul a 204,685 yn erbyn.[2]

Refferendwm 1975 golygu

Ym 1975 cynhaliwyd y refferendwm o dan ffiniau'r Cynghorau Dosbarth newydd a ffurfiwyd o dan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru a Lloegr) 1972. Cafwyd pôl yn 19 o'r 37 dosbarth gydag Ynys Môn, Arfon, Dwyfor, Meirionnydd, Ceredigion a Chaerfyrddin yn aros yn sych. Trodd dosbarth Aberconwy o'r hen Sir Gaernarfon a dosbarthiadau Llanelli a Dinefwr o'r hen Sir Gaerfyrddin yn wlyb. Bu newid hefyd yn nosbarth Glyn Dŵr; bu Edeirnion (ardal Corwen) gynt yn sych fel rhan o'r hen Sir Feirionnydd ond roedd gweddill y dosbarth yn wlyb fel rhan o'r hen Sir Ddinbych; pleidleisiodd Glyn Dŵr o blaid agor. Bu bleidlais yn nosbarthiadau Trefaldwyn, De Penfro, Preseli, Dyffryn Lliw, Afan, Wrecsam Maelor, Rhuddlan a Cholwyn, arhosodd pob un ohonynt yn wlyb. Pleidleisiodd 43% o'r sawl oedd a'r hawl i bleidlais.[3]

Refferendwm 1982 - 1996 golygu

Yn refferendwm 1982 trodd pob dosbarth ac eithrio Ceredigion a Dwyfor[4] yn wlyb, wedi pôl 1989 yr oedd holl ardaloedd llywodraeth leol Cymru ac eithrio Dwyfor [5] wedi pleidleisio o blaid agor tafarnau ar y Sul. Yn referendwm 1996 pleidleisiodd Dwyfor 24,325 o blaid i 9,829 yn erbyn agor, gan droi Cymru gyfan yn wlyb am y tro cyntaf ers pasio ddeddf 1881[6].

Cyfeiriadau golygu

  1. The referendum on the Sunday opening of licensed premises in Wales H. Carter & J.G. Thomas yn Regional Studies Volume 3, Issue 1, 1969
  2. JULIAN MOUNTER, South Wales Correspondent-Llandrindod Wells, Nov. 7. More demand Sunday pubs. Times (London, England) 8 Nov. 1968: 10. The Times Digital Archive. Adalwyd 28 Mawrth 2016.
  3. Trevor Fishlock. Three districts in Wales change to 'wet' Sunday. Times (London, England) 7 Nov. 1975: 2. The Times Digital Archive. Adalwyd 28 Mwarth 2016.
  4. Opening day in Wales. Times (London, England) 8 Nov. 1982: 4. The Times Digital Archive. Adalwyd 28 Mawrth 2016.
  5. David Nicholson-Lord and Brenda Parry. Welsh voters back 'wet' Sundays. Times (London, England) 9 Nov. 1989: 2. The Times Digital Archive. Adalwyd 28 Mawrth 2016.
  6. Wet Sunday in Wales yn yr Independent 8 Tachwedd 1996 adalwyd 3 Ion 2015