Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr
Cyfrol gan Gruffydd Aled Williams yw Dyddiau Olaf Owain Glyn Dŵr a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Awdur | Gruffydd Aled Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781784611569 |
Darlunydd | Iestyn Hughes |
Genre | Hanes Cymru |
I nodi chwechan mlwyddiant tebygol marw Owain Glyn Dŵr, dyma astudiaeth o'r traddodiadau a ddatblygodd ynghylch ei ddyddiau olaf, man ei farwolaeth a mannau posib ei gladdu. Edrychir o'r newydd ar yr honiadau a wnaed ynghylch mannau claddu Glyn Dŵr, gan seilio'r ymdriniaeth ar ymchwil mewn llawysgrifau ac ar ymchwil ar lawr gwlad.
Yr awdur
golyguGanwyd Gruffydd Aled Williams yn Ninbych a'i fagu yn Ninmael, Sir Ddinbych, a Glyndyfrdwy, Sir Feirionnydd. Bu'n darlithio yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn a Phrifysgol Cymru, Bangor ac yna'n Athro'r Gymraeg a Phennaeth Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1995 hyd 2008. Bu'n olygydd Llên Cymru o 1997 hyd 2012 a chyhoeddodd eisoes yn ystod y blynyddoedd diwethaf sawl erthygl ar Owain Glyn Dŵr.