Edeulys cyffredin
Edeulys cyffredin Cephaloziella divaricata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Cephaloziellaceae |
Genws: | Cephaloziella |
Rhywogaeth: | C. divaricata |
Enw deuenwol | |
Cephaloziella divaricata |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys cyffredin (enw gwyddonol: Cephaloziella divaricata; enw Saesneg: common threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Dyma'r edeulys mwyaf cyffredin yng ngwledydd Prydain; ac mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod drwy Gymru benbaladr.
Disgrifiad
golyguMae'n ffurfio clytiau o goesynnau bychan, main (llai na 0.5 mm o led), ac mae'r brown neu wyrdd, gyda dail daulabed 0.1-0.2 mm o hyd, wedi'u gwasgu at ei gilydd.
Cynefin
golyguMae'r Edeulys cyffredin (C. divaricata) yn tyfu mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd asidig, gan gynnwys pridd, mawnog, tywodlyd a graean, creigiau asidig a mwyngloddiau. Mae rhostiroedd, clogwyni arfordirol a llethrau mynydd i gyd yn gynefinoedd nodweddiadol.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.