Edgar Phillips

teiliwr, athro ysgol, bardd, ac Archdderwydd Cymru, 1960-62

Bardd Cymraeg oedd Edgar Phillips, enw barddol Trefin (8 Hydref 188930 Awst 1962). Bu'n Archdderwydd o 1960 hyd ei farwolaeth.

Edgar Phillips
FfugenwTrefin Edit this on Wikidata
Ganwyd8 Hydref 1889, 1889 Edit this on Wikidata
Trefin Edit this on Wikidata
Bu farw30 Awst 1962, 1962 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
SwyddArchdderwydd Edit this on Wikidata
PriodMaxwell Fraser Edit this on Wikidata
Cofeb Trefin yn Rehoboth, Rhoslanog, Sir Benfro.

Magwraeth Seisnig

golygu

Ganed ef ym mhentref Trefin yn Sir Benfro, yn unig blentyn William Bateman a Martha (g. Davies) Phillips ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn unarddeg oed. Morwr oedd y tad ond wedi ymddeol o'r môr gweithiodd fel pobydd ym Mhorthcawl. Collodd Trefîn ei fam yn 1898 wedi iddi dreulio 5 mlynedd yn ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin; mabwysiadwyd ef gan Mari, chwaer ei dad, a oedd yn wraig i John Martin, gwneuthurwr hwyliau, a hen forwr. Saesneg oedd iaith y cartref a Saesneg ond cadwodd ei Gymraeg -diolch i'r Ysgol Sul. Ceisiodd ddianc i'r môr pan ddeallodd fod y teulu am ei brentisio'n deiliwr. Pan ailbriododd ei dad symudodd y teulu i Gaerdydd ac aeth y bachgen yn 11 oed i ysgol Sloper Road.

Cymerodd Syr John Rowland ei athro Cymraeg, ddiddordeb ynddo a threfnu iddo gael benthyg Cymru a chyfnodolion Cymraeg eraill. Ond roedd ei dad a'i lysfam yn ceisio'i annog oddi wrth bethau Cymraeg.

Ar daith i Sir Benfro cafodd gwmni Owen Morgan Edwards ar y trên a chryfhawyd ei Gymreictod.

Teiliwr

golygu

Pan oedd yn 14 oed dychwelodd i Drefin fel prentis teiliwr, a dechreuodd ddysgu'r gynghanedd a gweithiodd am flwyddyn yn Nhreletert a Hendy-gwyn ar Daf am flwyddyn wedi gorffen ei brentisiaeth. Yn ychwanegol at y gymdeithas o feirdd lleol, defnyddiodd Ysgol Farddol Dafydd Morganwg. Dychwelodd i Gaerdydd i arbenigo ar ‘dorri’ a datblygodd i fod yn deiliwr dillad merched. Yn 1912 symudodd i Lundain gan weithio mewn nifer o siopau dillad cyn dychwelyd i Gaerdydd fel prif deiliwr yn un o siopau mwyaf y ddinas. Ym mis Awst 1914 agorodd fusnes teiliwr mewn partneriaeth â Trefor Roberts.[1]

Y Rhyfel Mawr

golygu

Yn 1915 ymunodd â'r fyddin a dewisiodd y Royal Garrison Artillery a daeth yn ddiweddarach yn Bombardier, ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a chlwyfwyd ef yn ddifrifol. Cafodd waith dros dro gan Gwmni Seccombes yng Nghaerdydd ond dirywiodd ei iechyd a symudodd i gyffiniau'r Coed-duon yng Ngwent gan weithio mewn siop ym Margod.

Athro a barddoni

golygu
 
Tom Carrington yn eistedd ar 'Gadair Shanghai', a enillwyd gan Trefin yn 1933.

Yn 1921, astudiodd gwrs athro yng Nghaerllion, a bu'n athro ym Mhengam a Pontllanfraith nes ymddeol yn 1954. Roedd yn un o arloeswyr darlledu Cymraeg a bu ei dditectif 'Bili Bach' yn arwr i blant y cyfnod hwnnw. Roedd yn gystadleuydd cyson yn yr eisteddfodau ac enillodd 33 o gadeiriau a choron, Bu'n Geidwad cledd Gorsedd y Beirdd o 1947 hyd 1960 pan wnaed ef yn Archdderwydd. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1933 am ei awdl 'Harlech', gan ennill 'Cadair Shanghai' - cadair a wnaed yn Tsieina.

Priodi

golygu

Priododd deirgwaith; roedd ei drydedd wraig, Dorothy Phillips, a oedd yn ddi-Gymraeg, yn awdur llyfrau taith dan yr enw Maxwell Fraser.

Gweithiau

golygu
  • Trysor o gân, pedair cyfrol (1930-36)
  • Caniadau Trefîn (1950)
  • Edmund Jones, the Old Prophet (1959)

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu