Edward Abbey
Llenor ac ecolegwr o'r Unol Daleithiau oedd Edward Abbey (29 Ionawr 1927 – 14 Mawrth 1989) sydd yn nodedig am ei nofelau a leolir yn Ne Orllewin yr Unol Daleithiau ac am ei ysgrifau sydd yn mynegi athroniaeth amgylcheddol radicalaidd ac anarchaidd. Fe'i gelwir weithiau yn "Thoreau y De Orllewin".
Edward Abbey | |
---|---|
Ganwyd | 29 Ionawr 1927 Home, Indiana |
Bu farw | 14 Mawrth 1989 Tucson |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, athronydd, awdur ysgrifau, sgriptiwr, amgylcheddwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Monkey Wrench Gang, Desert Solitaire |
Arddull | traethawd, Llenyddiaeth natur |
Prif ddylanwad | Aldo Leopold, Henry David Thoreau, Gary Snyder, Pyotr Kropotkin, A. B. Guthrie Jr. |
Mudiad | Amgylcheddaeth, green anarchism |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim |
Ganed ym mwrdeistref Indiana, Pennsylvania, a chafodd ei fagu mewn pentref cyfagos o'r enw Home. Ffermwr oedd ei dad, Paul Revere Abbey. Gadawodd Edward Abbey ei gartref yn Home yn 17 oed er mwyn bodio'i ffordd a theithio ar y wagen ar draws yr Unol Daleithiau, tua'r gorllewin i ddiffeithwch y Pedair Cornel (taleithiau Utah, Colorado, Arizona, a New Mexico). Derbyniodd ei radd baglor o Brifysgol New Mexico ym 1951, a'i radd meistr o'r brifysgol honno ym 1956 ar bwnc "Anarchiaeth a Moesoldeb Trais". Gweithiodd yn goedwigwr ac yn wyliwr tân i'r Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yn y 1950au a'r 1960au. Wrth ei waith, magai berthynas fynwesol â thirwedd a bywyd gwyllt rhanbarth y De Orllewin.
Ei dair nofel gyntaf oedd Jonathan Troy (1954), The Brave Cowboy (1956), a Fire on the Mountain (1962). Daeth yn amlwg yn sgil cyhoeddi Desert Solitaire: A Season in the Wilderness (1968), ei atgofion fel ceidwad parc yng nghefn gwlad Utah, a ystyrir yn glasur o lenyddiaeth natur.
Mae ei nofel enwocaf, The Monkey Wrench Gang (1975), yn ymwneud â phedwar amgylcheddwr sydd yn ceisio dinistrio Argae Ceunant Glen, yng ngogledd Arizona, gyda bom. Disgrifiodd Abbey y llyfr hwn yn stori ddychanol, ond cafodd ei feirniadu am ddisgrifio'n fanwl sut i ddifrodi eiddo yn fwriadol. O ganlyniad i The Monkey Wrench Gang, condemniwyd Abbey yn derfysgwr ac yn anarchydd peryglus gan gadwraethwyr sefydledig ac yn feddyliwr ysbrydoledig gan ecolegwyr y gwrthddiwylliant. Sefydlwyd y mudiad radicalaidd Earth First! ym 1980 gan griw o ymgyrchwyr ifanc a oedd yn edmygu gwaith Abbey, a'r nofel hon yn enwedig. Rhoddwyd yr enw monkey-wrenching ar dacteg o ddefnyddio difrod bwriadol er mwyn amddiffyn yr amgylchedd.
Bu farw Edward Abbey yn Tucson, Arizona, o glefyd cylchredol yn 62 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Edward Abbey, 62, Writer and Defender Of U.S. Wilderness", The New York Times (15 Mawrth 1989). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 16 Mehefin 2021.