Edward Hamlyn Adams

Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin

Roedd Edward Hamlyn Adams (30 Ebrill 177730 Mai 1842) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Chwig Gymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin

Edward Hamlyn Adams
Ganwyd30 Ebrill 1777 Edit this on Wikidata
Jamaica Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mai 1842 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Adams yn Jamaica, yn fab i William Adams, ac Elizabeth Anne, ei ail wraig a merch y Parch. Thomas Coxeter. Roedd teulu Adam wedi mudo i Jamaica o Gymru yn y 17g.

Ym 1796 priododd Amelia Sophia, merch hynaf Captain John MacPherson, UDA (bu hi farw ym 1831). Bu iddynt 6 o blant 4 merch a 2 fab. Trwy ei ferch, Matilda Lee Abadam, roedd yn dad-cu i'r awduron Vernon Lee[1] ac Eugene Lee-Hamilton. Roedd yn tad-cu tadol i'r ffeminist a swffragét amlwg Alice Abadam. Yn ôl Vernon Lee roedd ei thad cu yn extremely doctrinaire and moral, an ardent Voltairian, who spent much of his time disputing with the local parsons and refusing to pay tithes.

Gyrfa gyhoeddus

golygu

Ar ddiwedd rhyfelodd Napoleon penderfynodd ymddeol i wledydd Prydain, gan fyw yn Llundain a Chaerfaddon am gyfnod cyn prynu Neuadd Midleton gan ysgutorion ewyllys Syr William Paxton ym 1824. Roedd Adams a'i ystâd yn ffocws ar gyfer aflonyddwch yn ystod helyntion Beca 1839-43, ac ymosodwyd ar dafarn yr Arglwydd Nelson ym Mhorth-y-rhyd yr oeddent yn berchen arnynt ym 1843.[2]

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1831 ac fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin rhwng 1832 a 1835.[3]. Newidiodd ei fab hynaf a'i etifedd Edward ei gyfenw i ab Adda / Abadam, bu ef hefyd yn Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin am dymor 1855/56.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Neuadd Middleton yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Llanarthne. Gosodwyd plac coffa iddo, a gynlluniwyd gan E. Gaffin, ar fur yr Eglwys ym 1843.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. WIKISOURCE 1922 Encyclopædia Britannica/Lee, Vernon"
  2. Landed families of Britain and Ireland - Abadam of Middleton Hall
  3. "Parliamentary History of Carmarthenshire - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-12-17. Cyrchwyd 2015-12-02.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Sedd newydd
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18321835
Olynydd:
James Hamlyn-Williams