James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig
Roedd Syr James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig (25 Tachwedd 1790 - 10 Hydref 1861) yn dirfeddiannwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin ar ddau achlysur rhwng 1831 a 1832 ac wedyn rhwng 1835 a 1837[1]
James Hamlyn-Williams, 3ydd Barwnig | |
---|---|
Ganwyd | 25 Tachwedd 1790 Sir Gaerfyrddin |
Bu farw | 10 Hydref 1861 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Sir James Hamlyn-Williams, 2nd Baronet |
Mam | Diana Anne Whitaker |
Priod | Lady Mary Fortescue |
Plant | Mary Eleanor Hamlyn-Williams, Susan Hester Hamlyn-Williams, Edwina Augusta Williams |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Syr James yn fab hynaf i Syr James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig, a Dianne Anna (née Whittaker) ei wraig; merch Abraham Whittaker, marsiandiwr o Stratford, Essex.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Caerwynt rhwng 1802 a 1806.
Ym 1823 priododd y Ledi Mary Fortescue, Merch Hugh Fortescue, Iarll Cyntaf Fortiscue; bu iddynt tair merch.
Gyrfa
golyguGwasanaethodd fel milwr yng Nghatrawd y 7fed Hwsâr rhwng 1810 a 1823 gan wasanaethu fel is gapten o 1810 i 1813, Capten o 1813 i 1821 ac Uwchgapten o 1821 hyd ei ymddeoliad o'r fyddin sefydlog ym 1823.
Bu'n ymladd yn Rhyfel Iberia gan gael ei grybwyll mewn cadlythyrau am ei wasanaeth ym mrwydrau Orthes, Barcelona a Toulouse.[2]
Ym 1829 etifeddodd barwnigaeth ac ystâd ei dad, gan ymgymryd â dyletswyddau tirfeddiannwr bonheddig.[3]
Gwasanaethodd fel Cyrnol Milisia Swydd Dyfnaint, Dirprwy Raglaw Dyfnaint ac fel Uchel Siryf Sir Caerfyrddin ym 1848
Gyrfa etholiadol
golyguSafodd etholiad ym 1831 yn enw'r gleision sef cefnogwyr y Chwigiaid yng ngorllewin Cymru. Bu'n ymgyrchu o blaid diwygio'r etholfraint, am gael gwared â'r dreth ar frag, sebon a chanhwyllau, am wrthwynebu caethwasanaeth ac am economi rhydd. Bu'n canfasio ym mhell cyn i'r etholiad cael ei alw'n swyddogol ac, o weld y tebygrwydd o gael ei drechu penderfynodd deiliad y sedd, George Rice-Trevor, i beidio ail sefyll, gan ganiatáu i Hamlyn-Williams cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad[4].
Wedi pasio'r Ddeddf Diwygio Mawr ym 1832 rhoddwyd ail sedd seneddol i Sir Gaerfyrddin, ac roedd Hamlyn-Williams yn sicr y byddai o fel ymgeisydd y gleision a Rice-Trevor fel ymgeisydd y cochion (cefnogwyr y Torïaid) yn rhannu'r ddwy sedd yn ddiwrthwynebiad; ond fe sicrhaodd Rice-Trevor bod ymgeisydd Chwig swyddogol yn sefyll yr etholiad hefyd sef Edward Hamlyn Adams a gan hynny daeth Hamlyn-Williams yn drydydd a cholli ei sedd[5].
Yn etholiad 1835 sicrhaodd cefnogaeth Rice-Trevor a'r Blaid Ryddfrydol i sefyll fel ymgeisydd swyddogol ar ran y Rhyddfrydwyr a llwyddodd i gipio'r ail safle ac ennill yr ail sedd, ond collodd cefnogaeth Rice-Trevor eto am gefnogi diwygio bellach ar yr etholfraint a chollodd pleidleiswyr rhyddfrydol oedd yn rhydd o ddylanwad yr ystadau trwy beidio a mynd yn ddigon pell yn ei gefnogaeth i ddiwygio, a chollodd ei sedd eto ym 1837.[6]
Penderfynodd beidio sefyll eto.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Clovelly ym Mis Hydref 1861 yn 70 mlwydd oed. Gan nad oedd ganddo fab i etifeddu'r teitl bu farw'r farwnigaeth gydag ef.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The History of Parliament Trust HAMLYN WILLIAMS, Sir James, 3rd. bt. (1790-1861), of Edwinsford, Carm. and Clovelly Court, nr. Bideford, Devon adalwyd 3 Mehefin 2016
- ↑ "FUNERALOFSIRJAMESHAMLYN11BWILLIAMSI - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1861-10-25. Cyrchwyd 2016-06-03.
- ↑ Magna Britannia: Being a Concise Topographical Account of the Several Counties of Great Britain. Containing Devonshire, Volume 6 Tud 122
- ↑ "Carmarthenshire Election - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1831-05-13. Cyrchwyd 2016-06-03.
- ↑ "CARMARTHENSHIRE ELECTION - The Cambrian". T. Jenkins. 1832-12-22. Cyrchwyd 2016-06-03.
- ↑ "Cymeradwaeth Syr Jas Williams - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1835-07-21. Cyrchwyd 2016-06-03.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: George Rice Trevor |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1831 – 1832 |
Olynydd: Edward Hamlyn Adams |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Edward Hamlyn Adams |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1835 – 1837 |
Olynydd: John Jones, Ystrad |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: James Hamlyn-Williams, 2il Farwnig |
Barwnigaeth Hamlyn-Williams 1829 – 1861 |
Olynydd: difodiant |