Edward Jones (emynydd)
Bardd ac emynydd oedd Edward Jones, (hefyd Edward Jones, Maes y Plwm) (19 Mawrth 1761 - 27 Rhagfyr 1836).
Edward Jones | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mawrth 1761 Prion |
Bu farw | 27 Rhagfyr 1836 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Plant | John Jones, Daniel Jones |
Bywgraffiad
golyguGaned ar fferm Tan-y-Waen, Prion yn Sir Ddinbych. Bu ei dad farw pan oedd ef tua 10 oed. Priododd Jane Pierce a ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu Jane farw yn 1794, a'r flwyddyn wedyn priododd Margaret Roberts a cawsant 13 o blant.
Tua diwedd y 1790'au symudodd gyda'i deulu i fyw i dyddyn Maes y Plwm ym Mhrion, a bu'n cadw ysgol Saesneg am ysbeidiau yn y Prion ac yn gweithio yn swyddfa'r tollau yn Lerpwl. Bu'n gofal am ysgol Dinbych am ychydig. Yn 1805 aeth i Gaer i arolygu cyhoedd cyfieithiad Cymraeg o Feibl Samuel Clarke dros J. Humphreys, Caerwys. Wedi dychwelyd i Brion dewiswyd ef yn flaenor. Bu ei ail wraig farw yn 1818. Yn Ionawr 1825, rhoes fferm Maes-y-plwm drosodd i'w fab, Edward, ac aeth i gadw ysgol yng nghapel y Methodistiaid yn Llyn-y-Pandy, Sir y Fflint. Symudodd oddi yno i Gilcain, eto i gadw ysgol, yn 1829, ac yno y bu farw. Fe'i claddwyd yn Llanrhaeadr.
Gwaith barddonol
golyguYmddangosodd ei waith cyntaf, 'Hymnau … ar Amryw Destynau', yn 1810, wedi ei argraffu yn Ninbych; adargraffiadau gyda chyfnewidiadau yn 1820 a 1829. Yn 1831, cyhoeddodd gerdd ddychan, 'Gwialen i gefn yr ynfyd', yn ateb i lyfr Edward Jones, gweinidog y Wesleaid yn Llanidloes. Ei unig lwyddiant eisteddfodol oedd ‘Cân ar Ffolineb Swyngyfaredd’ a wobrwywyd yn y Trallwng, 1824. Ei emynau poblogaidd oedd ‘Mae'n llond y Nefoedd,’ ‘Cyfamod Hedd,’ a ‘Pob seraff, pob sant.’ Cyhoeddodd ei feibion, John a Daniel, weddillion ei waith yn eu cofiant iddo yn 1839. Er iddo adael gorchymyn i ddinistrio ei holl ganiadau anorffenedig, y mae un llawysgrif y dechreuodd ei hysgrifennu yn 1789, gyda dyddiadur ei fab Daniel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Caniadau Maes y Plwm. Casgliad o waith barddol Edward Jones ar Google Book Search.