Edward Perkins Alexander

cricedwr

Roedd Edward Perkins Alexander (7 Awst, 1863 - 26 Hydref, 1931) yn flaenwr rygbi'r undeb Gymreig rhyngwladol, oedd yn chwarae rygbi clwb dros Brifysgol Caergrawnt a Chymry Llundain a rygbi rhyngwladol i Gymru. Roedd Alexander hefyd yn cynrychioli sawl tîm criced, gan gynnwys Coleg Llanymddyfri.

Edward Perkins Alexander
Enw llawn Edward Perkins Alexander
Dyddiad geni (1863-08-07)7 Awst 1863
Man geni Sain Dunwyd
Dyddiad marw 26 Hydref 1931(1931-10-26) (68 oed)
Lle marw Holt, Wiltshire, Lloegr
Ysgol U. Coleg Llanymddyfri
Prifysgol Coleg yr Iesu, Caergrawnt
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1884-1887
1887-?
1888-1890
Clwb Rygbi Prifysgol Caergrawnt
CR Aberhonddu
Cymry Llundain
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1885–1887 Cymru 5 (0)

Cefndir golygu

Ganed Alexander ym 1863 ym Sain Dunwyd, yn fab i Thomas Alexander, ffarmwr ac Elizabeth (née Huntley) ei wraig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Llanymddyfri ac ym 1883 graddiodd o Goleg yr Iesu, Caergrawnt. Wedi ymadael a'r coleg fu'n gweithio ar y fferm gyda'i dad. Wedi marwolaeth ei dad ym 1891 symudodd y teulu i bentref Holt, ger Bradford, lle fuont yn ffarmio gwartheg godro ar fferm o'r enw Glan yr Afon. Ym 1893 priododd â Lucy Tucker Mackay bu iddynt fab a merch. Bu farw yng Nglan yr Afon yn 68 mlwydd oed.

Gyrfa rygbi golygu

Daeth Alexander i amlygrwydd fel chwaraewr rygbi gyntaf pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm Prifysgol Caergrawnt. Enillodd dri chrys glas am chwaraeon, gan chwarae mewn gemau Caergrawnt v Rhydychen ym 1884, 1885 a 1886. Ym 1885, tra oedd yn dal yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt, cafodd ei ddewis ar gyfer tîm cenedlaethol Cymru yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Pedwar Gwlad yn erbyn yr Alban.[1] Daeth i mewn i'r garfan i gymryd lle John Sidney Smith, roedd Alexander yn rhan o becyn naw dyn a oedd yn cynnwys pedwar chwaraewr a fyddai wedyn yn dod yn gapteiniaid tîm Cymru, Bob Gould, Tom Clapp, Willie Thomas a Frank Hill. Daeth y gêm i ben yn gyfartal 0-0, canlyniad gorau Cymru yn erbyn yr Alban hyd hynny. Ail-ddewiswyd Alexander ar gyfer dwy gêm ryngwladol nesaf Cymru, yn erbyn Lloegr a'r Alban ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886; a welodd Cymru yn defnyddio trefniant pedwar tri chwarter yn y gêm yn yr Alban, y tîm cyntaf i wneud hynny ar lefel ryngwladol. Er i Gymru golli'r ddwy gêm, cadwodd y dewiswyr ffydd gydag Alexander a chwaraeodd yng ngemau agoriadol a chau twrnamaint 1887. O dan gapteiniaeth Charlie Newman, bu Cymru’n gyfartal yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr, ond disodlwyd Alexander ar gyfer gêm yr Alban gan Evan Richards. Roedd gêm yr Alban yn drychineb i Gymru, gyda thîm yr Alban yn sgorio 12 cais i ddim gan Gymru. Adenillodd Alexander ei safle ar gyfer gêm olaf y gyfres, pan oedd yn chwarae i Glwb Rygbi Aberhonddu, a welodd Cymru yn ennill diolch i gic is gan Arthur Gould.

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru[2]

Llyfryddiaeth golygu

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. "FOOTBALL - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1885-01-17. Cyrchwyd 2020-10-10.
  2. Smith (1980), pg 463.