Edward Pryce-Jones
Roedd Syr Pryce Edward Pryce-Jones Bt. Barwnig Cyntaf (6 Chwefror 1861 – 22 Mai 1926) yn ŵr busnes, bargyfreithiwr a gwleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn rhwng 1895 a 1906 ac eto rhwng 1910 a 1918.
Edward Pryce-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1861 y Drenewydd |
Bu farw | 22 Mai 1926 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Pryce Pryce-Jones |
Mam | Eleanor Morris |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Pryce-Jones yn y Drenewydd, yn fab hynaf Syr Pryce Pryce-Jones perchennog busnes gwerthu drwy'r post y Royal Welsh Warehouse ac Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn, ac Eleanor Rowley Morris ei wraig. Roedd yn frawd i'r peldroedwyr Albert Westhead Pryce-Jones a William Earnest Pryce-Jones a'r filwr Y Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones[1].
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Lerpwl a Choleg yr Iesu, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1889 ac MA ym 1893[2]
Ym 1886 priododd Beatrice, merch Herbert Hardie o Orford House, Swydd Gaer, bu iddynt dau blentyn Victor Pryce-Jones, ail Farwnig a Beatrice Pryce-Jones[3]
Gyrfa
golyguYmunodd a'r Deml Fewnol ym 1882 gan gael ei alw i'r Bar ym 1892[4] ond ni fu'n ymarfer y gyfraith lawer.
Bu'n gweithio yn bennaf ym musnes gwerthu nwyddau gwlân a manwerthu ei dad a phan drodd y busnes yn gwmni cyfunedig ym 1892 fel Pryce-Jones Ltd daeth Edward yn Reolwr Gyfarwyddwr y cwmni cyn cael ei godi'n gadeirydd y cwmni. Ym 1910 fe wnaed yn gadeirydd Cwmni Pryce-Jones (Canada) Ltd ymgais aflwyddiannus i geisio disodli'r Hudson Bay Company fel prif fusnes masnachol y drefedigaeth; aeth yr ymgais i'r wal ar gychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gyrfa Wleidyddol
golyguGwasanaethodd Pryce Jones fel Aelod o Gyngor Sir Drefaldwyn o sefydlu'r cyngor ym 1882. Pan benderfynodd ei dad i sefyll i lawr fel AS Ceidwadol Bwrdeistref Trefaldwyn ym 1885 dewiswyd Edward fel olynydd iddo. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1895 a 1900 o'n cafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, John David Rees ym 1906 ac eto yn etholiad cyffredinol Ionawr 1910, ail gipiodd y sedd yn etholiad cyffredinol mis Ragfyr 1910 gan ddal y sedd hyd ei ddileu ar gyfer etholiad 1918. Wedi colli ei sedd fe wnaed yn Farwnig.
Gwasanaethodd fel ysgrifennydd Prydeinig yr Undeb Seneddol Rhyngwladol a chyd ysgrifennydd cyffredinol y grŵp pob plaid ar fasnach. Roedd yn wrthwynebydd cryf i ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru a dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yng Nghymru.
Gwasanaeth amgen
golyguGwasanaethodd Pryce-Jones fel aelod o Iwmyn Sir Drefaldwyn, gan ymadael a'r bataliwn fel Uwchgapten er anrhydedd ym 1895. Sefydlodd a fu'n Gadlywydd 5 Bataliwn Gwirfoddolwyr Cyffinwyr De Cymru, bu'n Cyrnol er anrhydedd yn 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Gwasanaethodd fel llywodraethwr Prifysgol Cymru ac Is ganghellor y Brifysgol ac fel llywodraethwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dilwyn Porter, ‘Jones, Sir Pryce Pryce- (1834–1920)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 30 Oct 2016
- ↑ Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students ..., Volume 2 John Venn
- ↑ "MARRIAGE OF CAPTAINE PRYCE-JONES - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1886-06-25. Cyrchwyd 2016-10-31.
- ↑ "No title - The Montgomeryshire Express and Radnor Times". William Pugh Phillips & Gilbert Norton Phillips. 1892-01-19. Cyrchwyd 2016-10-31.
- ↑ "Sir Pryce Pryce-Jones." Times (London, England) 24 May 1926: 17. The Times Digital Archive. Web. 30 Hydref. 2016
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Pryce Pryce-Jones |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1895 – 1906 |
Olynydd: John David Rees |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: John David Rees |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn Rhagfyr 1910 – 1918 |
Olynydd: dileu'r etholaeth |