Albert Westhead Pryce-Jones
Cyn ŵr busnes a phêl-droediwr Cymreig oedd Albert Westhead Pryce-Jones OBE (26 Mai 1870 – 17 Awst 1946). Llwyddodd i ennill Cwpan Cymru gyda'r Drenewydd yn ogystal ag ennill 1 cap dros Gymru ym 1895.
Albert Westhead Pryce-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mai 1870 Cymru, y Drenewydd |
Bu farw | 17 Awst 1946 Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed, diwydiannwr, milwr |
Tad | Pryce Pryce-Jones |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Y Drenewydd |
Bywyd cynnar
golyguRoedd Pryce-Jones yn fab i Syr Pryce Pryce-Jones, perchennog busnes gwerthu drwy'r post y Royal Welsh Warehouse ac Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn. Cafodd Pryce-Jones ei addysg yn Ysgol Amwythig lle roedd yn gricedwr a phêl-droediwr o fri.[1] Ym 1889 aeth i astudio yng Ngholeg Clare, Caergrawnt lle cynrychiolodd Prifysgol Caergrawnt mewn pêl-droed a tenis yn ogystal â bod yn gapten ar dîm criced y Coleg.[1]
Gyrfa bêl-droed
golyguAr ôl gadael y Brifysgol, ymunodd Pryce-Jones â'i frawd, William Ernest Pryce-Jones yn nhîm Y Drenewydd ac roedd y ddau yn rhan o'r tîm drechodd Wrecsam yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym 1894-95[2] ac yn yr un tymor casglodd ei unig gap rhyngwladol wrth chwarae dros Gymru mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr yn y Queen's Club, Llundain.[3]
Bywyd busnes
golyguAr ôl gadael y Brifysgol, ymunodd â busnes ei dad yn Y Drenewydd. Roedd Pryce-Jones hefyd yn aeod o'r Fyddin Diriogaethol fel swyddog yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.[4]. Ym 1911 symudodd i Calgary yng Nghanada ym 1911 er mwyn sefydlu cangen o'r RWW yn y ddinas a cheisio disodli'r Hudson Bay Company fel prif fusnes masnachol yr ardal.[4][5]
Aeth y busnes yng Nghanada i'r wal pan adawodd Pryce-Jones er mwyn dychwelyd i Brydain Fawr er mwyn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[5]
Rhyfel Byd Cyntaf
golyguAr ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf cododd Pryce-Jones fataliwn lleol yn Calgary er mwyn hwylio i ymladd dros yr Ymerodraeth. Gadawodd yr 113th Lethbridge (Calgary) Highlanders am Loegr ym mis Medi 1916 ond oherwydd colledion enbyd yn ystod y brwydro yn Ffrainc cafodd y bataliwn ei rannu rhwng sawl bataliwn Canadaidd arall.[4][6]
Bu farw ei fab, Reginald 'Rex' Pryce-Jones, yn ystod Brwydr y Somme ar 18 Tachwedd 1916.[7]
Ymddeoliad
golyguAr ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Pryce-Jones yn byw yn Llundain cyn symud i fyw i'r Ariannin ym 1938, lle bu farw ym 1946.[1]
Gweler hefyd
golyguEi frodyr:
- Edward Pryce-Jones AS
- Y Cyrnol Henry Morris Pryce-Jones, CB; CVO; DSO, MC; MVO
- William Ernest Pryce-Jones
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 171. ISBN 1 872424 11 2.
- ↑ "Welsh Cup Final 1894-95". Welsh Football Data Archive. welshsoccerarchive.co.uk.
- ↑ "England 1-1 Wales". eu-football.info.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Jackson, Jasmin (2006). On the Way!. Trafford Publishing. t. 51. ISBN 1412031397.
- ↑ 5.0 5.1 "Canadian Museum of History". Canadian Museum of History.
- ↑ "Colonels of the Canadian Expeditionary Force: The Welshman". Patriots, Crooks and Safety Firsters.
- ↑ "Rex Pryce-Jones". Canadian Virtual War Memorial. Veterans Affairs Canada.