Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr
Enwad Cristnogol Diwygiedig ac efengylaidd ceidwadol yw'r Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr (Saesneg: Evangelical Presbyterian Church in England and Wales, EPCEW), â'i egwlysi yng Nghymru, Lloegr a Sweden.
Hanes yn Lloegr
golyguYm 1986, cynhaliwyd cynhadledd Bresbyteraidd mewn un o gapeli Eglwys Rydd yr Alban yn Llundain, lle y cynigiwyd gweledigaeth am enwad Presbyteraidd newydd yn Lloegr a fyddai'n ffyddlon i'r Ysgrythurau ac yn glynu wrth Gyffes Ffydd Westminster. O ganlyniad, sefydlwyd y Gymdeithas Bresbyteraidd yn Lloegr ym 1987 o blith sawl eglwys a grŵp Cristnogol bach, wedi'i ddilyn gan ymdrechion i sefydlu eglwysi newydd. Ym 1991, ffurfiwyd henaduriaeth dros dro ag eglwysi yn Blackburn, Caergrawnt, Chelmsford, Durham a Hull er mwyn anelu at sefydlu'r enwad newydd. Gwireddwyd hyn ym 1996, gan ddwyn yr enw, yr Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr.[1]
Datblygiadau yng Nghymru
golyguYn 2000, derbyniwyd dau gapel yng Nghaerdydd i'r enwad, Immanuel a Bethel.[2][3] Yn fwy diweddar, mae capel yn y Barri wedi ymaelodu hefyd.[4]
Cyrff rhyngwladol
golyguYnghyd ag Eglwys Rydd yr Alban ac Eglwys Rydd Barhaus yr Alban, un o dri aelod o Gynhadledd Ryngwladol Eglwysi Diwygiedig o Brydain Fawr ydyw,[5] ac mae'n un o saith enwad Cristnogol yn Ewrop a sefydlwyd Cynhadledd Eglwysi Diwygiedig Ewrop.[6]
Eglwysi
golyguYn 2015, mae gan yr enwad 17 o eglwysi yn:[7]
Cymru
golyguLloegr
golygu- Blackburn a Ribchester [11]
- Bury St Edmunds [12]
- Caergrawnt [13]
- Chelmsford [14]
- Cheltenham [15]
- Cheltenham, Gogledd
- Durham [16]
- Gateshead [17]
- Hexham [18]
- Hull [19]
- Sheffield [20]
- Solihull [21]
Sweden
golygu- Gweler hefyd: Eglwys Ddiwygiedig Efengylaidd yn Sweden
Cyhoeddiadau
golyguMae'r enwad yn cyhoeddi cylchgrawn The Presbyterian Network yn y gwanwyn a'r hydref, sydd yn cynnwys erthyglau diwinyddol a bugeiliol a newyddion am ei heglwysi.[24]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.epcew.org.uk/about.html Evangelical Presbyterian Church in England and Wales - About
- ↑ http://christianquoter.blogspot.hu/2010/06/presbyterianism-in-england-today-part-3.html Christian Quoter - Presbyterianism in England Today (Part 3)
- ↑ http://heidelblog.net/2012/09/there-are-presbyterians-in-england-and-theyre-having-a-conference/ The Heidelblog - There Are Presbyterians in England and They’re Having a Conference
- ↑ http://www.chelmsfordpres.org.uk/presbytery/index.html Archifwyd 2015-05-06 yn y Peiriant Wayback Chelmsford Presbyterian Church - Presbytery News
- ↑ http://www.icrconline.com/members.html Archifwyd 2012-07-17 yn y Peiriant Wayback International Conference of Reformed Churches - Churches in Membership
- ↑ http://www.eucrc.org/index.php/members/list-of-members European Conference of Reformed Churches - Member Churches
- ↑ "EPCEW Congregations". Evangelical Presbyterian Church in England and Wales Website. Evangelical Presbyterian Church in England and Wales. Cyrchwyd 27 April 2015.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2015-07-01.
- ↑ http://www.bethelpcr.org.uk Bethel Presbyterian Church, Cardiff
- ↑ http://www.immanuelcaerau.org.uk/ Archifwyd 2016-01-09 yn y Peiriant Wayback Immanuel Presbyterian Church
- ↑ http://www.affinity.org.uk/find-a-church/church-information/blackburn-evangelical-presbyterian-church
- ↑ http://www.bse-pc.org/welcome.htm Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback Bury St Edmunds Presbyterian Church
- ↑ http://www.cambridgepres.org.uk/ Cambridge Presbyterian Church
- ↑ http://www.chelmsfordpres.org.uk/ CPC Hall Street
- ↑ http://www.cheltenhampres.org.uk/ Naunton Lane Evangelical Presbyterian Church
- ↑ http://www.depc.org.uk/ Archifwyd 2016-01-09 yn y Peiriant Wayback Durham Presbyterian Church
- ↑ http://www.gatesheadpres.org.uk/ Gateshead Presbyterian Church
- ↑ "Hexham Presbyterian Church". Hexham Presbyterian Church Website. Hexham Presbyterian Church. Cyrchwyd 27 April 2015.
- ↑ http://www.ehpc.co.uk/ East Hull Presbyterian church
- ↑ http://www.sheffieldpres.org.uk/ Sheffield Presbyterian Church
- ↑ http://www.solihullpres.org.uk/ Solihull Presbyterian Church
- ↑ http://www.erkis.se/en/ Archifwyd 2015-06-26 yn y Peiriant Wayback Immanuelskyrkan
- ↑ http://www.reformert.se/ Archifwyd 2016-02-06 yn y Peiriant Wayback Westminstergruppen
- ↑ http://www.epcew.org.uk/resources.html Evangelical Presbyterian Church in England and Wales - Resources